Salmau 91:1-16 BCN1988 - Bible AI

1Y mae'r sawl sy'n byw yn lloches y Goruchaf, ac yn aros yng nghysgod yr Hollalluog,

2yn dweud wrth yr ARGLWYDD, "Fy noddfa a'm caer, fy Nuw, yr un yr ymddiriedaf ynddo."

3Oherwydd bydd ef yn dy waredu o fagl heliwr, ac oddi wrth bla difaol;

4bydd yn cysgodi drosot �'i esgyll, a chei nodded dan ei adenydd; bydd ei wirionedd yn darian a bwcled.

5Ni fyddi'n ofni rhag dychryn y nos, na rhag saeth yn hedfan yn y dydd,

6rhag pla sy'n tramwyo yn y tywyllwch, na rhag dinistr sy'n difetha ganol dydd.

7Er i fil syrthio wrth dy ochr, a deng mil ar dy ddeheulaw, eto ni chyffyrddir � thi.

8Ni fyddi ond yn edrych �'th lygaid ac yn gweld t�l y drygionus.

9Ond i ti, bydd yr ARGLWYDD yn noddfa; gwnaethost y Goruchaf yn amddiffynfa;

10ni ddigwydd niwed i ti, ac ni ddaw pla yn agos i'th babell.

11Oherwydd rhydd orchymyn i'w angylion i'th gadw yn dy holl ffyrdd;

12byddant yn dy godi ar eu dwylo rhag iti daro dy droed yn erbyn carreg.

13Byddi'n troedio ar y llew a'r asb, ac yn sathru'r llew ifanc a'r sarff.

14Am iddo lynu wrthyf, fe'i gwaredaf; fe'i diogelaf am ei fod yn adnabod fy enw.

15Pan fydd yn galw arnaf, fe'i hatebaf; byddaf fi gydag ef mewn cyfyngder, gwaredaf ef a'i anrhydeddu.

16Digonaf ef � hir ddyddiau, a gwnaf iddo fwynhau fy iachawdwriaeth."