Salmau 92:1-15 BCN1988 - Bible AI

11 Salm. C�n. Ar gyfer y Saboth.0 Da yw moliannu'r ARGLWYDD, a chanu mawl i'th enw di, y Goruchaf,

2a chyhoeddi dy gariad yn y bore a'th ffyddlondeb bob nos,

3gyda'r dectant a'r nabl a chyda chordiau'r delyn.

4Oherwydd yr wyt ti, O ARGLWYDD, wedi fy llawenychu �'th waith; yr wyf yn gorfoleddu yng ngweithgarwch dy ddwylo.

5Mor fawr yw dy weithredoedd, O ARGLWYDD, a dwfn iawn dy feddyliau!

6Un dwl yw'r sawl sydd heb wybod, a ffu373?l yw'r un sydd heb ddeall hyn:

7er i'r annuwiol dyfu fel glaswellt ac i'r holl wneuthurwyr drygioni lwyddo, eu bod i'w dinistrio am byth,

8ond dy fod ti, ARGLWYDD, yn dragwyddol ddyrchafedig.

9Oherwydd wele, dy elynion, ARGLWYDD, wele, dy elynion a ddifethir, a'r holl wneuthurwyr drygioni a wasgerir.

10Codaist i fyny fy nghorn fel corn ych, ac eneiniaist fi ag olew croyw.

11Ymhyfrydodd fy llygaid yng nghwymp fy ngelynion, a'm clustiau wrth glywed am y rhai drygionus a gododd yn f'erbyn.

12Y mae'r cyfiawn yn blodeuo fel palmwydd, ac yn tyfu fel cedrwydd Lebanon.

13Y maent wedi eu plannu yn nhu375?'r ARGLWYDD, ac yn blodeuo yng nghynteddau ein Duw.

14Rh�nt ffrwyth hyd yn oed mewn henaint, a pharh�nt yn wyrdd ac iraidd.

15Cyhoeddant fod yr ARGLWYDD yn uniawn, ac am fy nghraig, nad oes anghyfiawnder ynddo.