Salmau 93:1-5 BCN1988 - Bible AI

1Y mae'r ARGLWYDD yn frenin; y mae wedi ei wisgo � mawredd, y mae'r ARGLWYDD wedi ei wisgo, a nerth yn wregys iddo. Yn wir, y mae'r byd yn sicr, ac nis symudir;

2y mae dy orsedd wedi ei sefydlu erioed; yr wyt ti er tragwyddoldeb.

3Cododd y dyfroedd, O ARGLWYDD, cododd y dyfroedd eu llais, cododd y dyfroedd eu rhu.

4Cryfach na su373?n dyfroedd mawrion, cryfach na thonnau'r m�r, yw'r ARGLWYDD yn yr uchelder.

5Y mae dy dystiolaethau'n sicr iawn; sancteiddrwydd sy'n gweddu i'th du375?, O ARGLWYDD, hyd byth.

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>