Salmau 95:1-11 BCN1988 - Bible AI

1Dewch, canwn yn llawen i'r ARGLWYDD, rhown floedd o orfoledd i graig ein hiachawdwriaeth.

2Down i'w bresenoldeb � diolch, gorfoleddwn ynddo � chaneuon mawl.

3Oherwydd Duw mawr yw'r ARGLWYDD, a brenin mawr goruwch yr holl dduwiau.

4Yn ei law ef y mae dyfnderau'r ddaear, ac eiddo ef yw uchelderau'r mynyddoedd.

5Eiddo ef yw'r m�r, ac ef a'i gwnaeth; ei ddwylo ef a greodd y sychdir.

6Dewch, addolwn ac ymgrymwn, plygwn ein gliniau gerbron yr ARGLWYDD a'n gwnaeth.

7Oherwydd ef yw ein Duw, a ninnau'n bobl iddo a defaid ei borfa; heddiw cewch wybod ei rym, os gwrandewch ar ei lais.

8Peidiwch � chaledu'ch calonnau, fel yn Meriba, fel ar ddiwrnod Massa yn yr anialwch,

9pan fu i'ch hynafiaid fy herio a'm profi, er iddynt weld fy ngwaith.

10Am ddeugain mlynedd y ffieiddiais y genhedlaeth honno, a dweud, "Pobl �'u calonnau'n cyfeiliorni ydynt, ac nid ydynt yn gwybod fy ffyrdd."

11Felly tyngais yn fy nig na chaent ddyfod i'm gorffwysfa.