1Canwch i'r ARGLWYDD g�n newydd, canwch i'r ARGLWYDD yr holl ddaear.
2Canwch i'r ARGLWYDD, bendithiwch ei enw, cyhoeddwch ei iachawdwriaeth o ddydd i ddydd.
3Dywedwch am ei ogoniant ymysg y bobloedd, ac am ei ryfeddodau ymysg yr holl genhedloedd.
4Oherwydd mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl; y mae i'w ofni'n fwy na'r holl dduwiau.
5Eilunod yw holl dduwiau'r bobloedd, ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd.
6Y mae anrhydedd a mawredd o'i flaen, nerth a gogoniant yn ei gysegr.
7Rhowch i'r ARGLWYDD, dylwythau'r cenhedloedd, rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd a nerth;
8rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd ei enw, dygwch offrwm a dewch i'w gynteddoedd.
9Ymgrymwch i'r ARGLWYDD yn ysblander ei sancteiddrwydd; crynwch o'i flaen, yr holl ddaear.
10Dywedwch ymhlith y cenhedloedd, "Y mae'r ARGLWYDD yn frenin"; yn wir, y mae'r byd yn sicr ac nis symudir; bydd ef yn barnu'r bobloedd yn uniawn.
11Bydded y nefoedd yn llawen a gorfoledded y ddaear; rhued y m�r a'r cyfan sydd ynddo,
12llawenyched y maes a phopeth sydd ynddo. Yna bydd holl brennau'r goedwig yn canu'n llawen
13o flaen yr ARGLWYDD, oherwydd y mae'n dod, oherwydd y mae'n dod i farnu'r ddaear. Bydd yn barnu'r byd � chyfiawnder, a'r bobloedd �'i wirionedd.