Salmau 98:1-9 BCN1988 - Bible AI

11 Salm.0 Canwch i'r ARGLWYDD g�n newydd, oherwydd gwnaeth ryfeddodau. Cafodd fuddugoliaeth �'i ddeheulaw ac �'i fraich sanctaidd.

2Gwnaeth yr ARGLWYDD ei fuddugoliaeth yn hysbys, datguddiodd ei gyfiawnder o flaen y cenhedloedd.

3Cofiodd ei gariad a'i ffyddlondeb tuag at du375? Israel; gwelodd holl gyrrau'r ddaear fuddugoliaeth ein Duw.

4Bloeddiwch mewn gorfoledd i'r ARGLWYDD, yr holl ddaear, canwch mewn llawenydd a rhowch fawl.

5Canwch fawl i'r ARGLWYDD �'r delyn, �'r delyn ac � sain c�n.

6� thrwmpedau ac � sain utgorn bloeddiwch o flaen y Brenin, yr ARGLWYDD.

7Rhued y m�r a'r cyfan sydd ynddo, y byd a phawb sy'n byw ynddo.

8Bydded i'r dyfroedd guro dwylo; bydded i'r mynyddoedd ganu'n llawen gyda'i gilydd

9o flaen yr ARGLWYDD, oherwydd y mae'n dyfod i farnu'r ddaear; bydd yn barnu'r byd � chyfiawnder, a'r bobloedd ag uniondeb.

British and Foreign Bible Society, 1988
/div>