1Y mae'r ARGLWYDD yn frenin, cryna'r bobloedd; y mae wedi ei orseddu uwch y cerwbiaid, ysgydwa'r ddaear.
2Y mae'r ARGLWYDD yn fawr yn Seion, y mae'n ddyrchafedig uwch yr holl bobloedd.
3Bydded iddynt foli dy enw mawr ac ofnadwy � sanctaidd yw ef.
4Un cryf sydd frenin; y mae'n caru cyfiawnder. Ti sydd wedi sefydlu uniondeb; gwnaethost farn a chyfiawnder yn Jacob.
5Dyrchafwch yr ARGLWYDD ein Duw; ymgrymwch o flaen ei droedfainc � sanctaidd yw ef.
6Yr oedd Moses ac Aaron ymhlith ei offeiriaid, a Samuel ymhlith y rhai a alwodd ar ei enw; galwasant ar yr ARGLWYDD, ac atebodd hwy.
7Llefarodd wrthynt mewn colofn gwmwl; cadwasant ei dystiolaethau a'r ddeddf a roddodd iddynt.
8O ARGLWYDD, ein Duw, atebaist hwy; Duw yn maddau fuost iddynt, ond yn dial eu camweddau.
9Dyrchafwch yr ARGLWYDD ein Duw, ymgrymwch yn ei fynydd sanctaidd � sanctaidd yw'r ARGLWYDD ein Duw.