Sechareia 1:1-21 BCN1988 - Bible AI

1Yn yr wythfed mis o ail flwyddyn Dareius, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd Sechareia fab Beracheia, fab Ido, a dweud,

2Digiodd yr ARGLWYDD yn fawr wrth eich hynafiaid.

3Dywed wrthynt, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Dychwelwch ataf fi,' medd ARGLWYDD y Lluoedd, 'a dychwelaf finnau atoch chwi,' medd ARGLWYDD y Lluoedd.

4'Peidiwch � bod fel eich hynafiaid, y galwodd y proffwydi gynt arnynt, a dweud, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Trowch oddi wrth eich ffyrdd drygionus a'ch gweithredoedd drygionus, ond ni wrandawsant na rhoi sylw imi,' medd yr ARGLWYDD.

5'Eich hynafiaid � ple maent? A'r proffwydi � a ydynt i fyw am byth?

6Ond y geiriau a'r deddfau a orchmynnais i'm gweision y proffwydi � oni ddaethant ar eich hynafiaid? A ddychwelasant hwy a dweud, Gwnaeth ARGLWYDD y Lluoedd fel y bwriadodd i ni am ein ffyrdd a'n gweithredoedd?'"

7Ar y pedwerydd ar hugain o'r unfed mis ar ddeg, sef mis Sebat, o ail flwyddyn Dareius, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd Sechareia fab Beracheia, fab Ido.

8Dywedodd Sechareia: Neithiwr cefais weledigaeth, dyn yn marchogaeth ar geffyl coch. Yr oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd yn y pant, ac o'i �l yr oedd meirch cochion, brithion a gwynion.

9A gofynnais, "Beth yw'r rhai hyn, arglwydd?" A dywedodd yr angel oedd yn siarad � mi, "Dangosaf i ti beth ydynt."

10Yna dywedodd y gu373?r oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd, "Dyma'r rhai a anfonodd yr ARGLWYDD i dramwyo dros y ddaear."

11A dywedasant wrth angel yr ARGLWYDD, a oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd, "Yr ydym wedi bod dros y ddaear, ac y mae'r holl ddaear yn dawel ac yn heddychlon."

12Yna atebodd angel yr ARGLWYDD, "O ARGLWYDD y Lluoedd, am ba hyd y peidi � thosturio wrth Jerwsalem ac wrth ddinasoedd Jwda, y dangosaist dy lid wrthynt y deng mlynedd a thrigain hyn?"

13A llefarodd yr Arglwydd eiriau caredig a chysurlon wrth yr angel oedd yn siarad � mi,

14a dywedodd yr angel oedd yn siarad � mi, "Cyhoedda, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: 'Yr wyf yn eiddigeddus iawn dros Jerwsalem a thros Seion.

15Yr wyf yn llawn llid mawr yn erbyn y cenhedloedd y mae'n esmwyth arnynt, am iddynt bentyrru drwg ar ddrwg pan nad oedd fy llid ond bychan.'

16Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Dychwelaf i Jerwsalem mewn trugaredd ac adeiledir fy nhu375? ynddi,' medd ARGLWYDD y Lluoedd, 'ac estynnir llinyn mesur dros Jerwsalem.'

17Cyhoedda hefyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: 'Bydd fy ninasoedd eto'n orlawn o ddaioni; rhydd yr ARGLWYDD eto gysur i Seion, a bydd eto'n dewis Jerwsalem.'"

18Edrychais i fyny a gwelais, ac wele bedwar corn.

19A gofynnais i'r angel oedd yn siarad � mi, "Beth yw'r rhain?" A dywedodd wrthyf, "Dyma'r cyrn a wasgarodd Jwda, Israel a Jerwsalem."

20Yna dangosodd yr ARGLWYDD imi bedwar gof.

21A dywedais, "Beth y mae'r rhain am ei wneud?" Atebodd, "Bu'r cyrn hyn yn gwasgaru Jwda mor llwyr fel na allai neb godi ei ben; ond daeth y gofaint i'w dychryn a dinistrio cyrn y cenhedloedd a gododd gorn yn erbyn gwlad Jwda i'w gwasgaru."

e>