Sechareia 10:1-12 BCN1988 - Bible AI

1Gofynnwch i'r ARGLWYDD am law yn nhymor glaw'r gwanwyn; yr ARGLWYDD sy'n gwneud y cymylau trymion a'r cawodydd glaw, ac yn rhoi gwellt y maes i bawb.

2Oherwydd y mae'r teraffim yn llefaru oferedd, a gweledigaeth y dewiniaid yn gelwydd; cyhoeddant freuddwydion twyllodrus, a chynnig cysur gwag. Am hynny y mae'r bobl yn crwydro fel defaid, yn druenus am eu bod heb fugail.

3Enynnodd fy llid yn erbyn y bugeiliaid, a dygaf gosb ar arweinwyr y praidd; oherwydd gofala ARGLWYDD y Lluoedd am ei braidd, tu375? Jwda, a'u gwneud yn farch-rhyfel balch.

4Ohonynt hwy y daw'r conglfaen a hoelen y babell; ohonynt hwy y daw'r bwa rhyfel; ohonynt hwy y daw pob cadfridog.

5Byddant gyda'i gilydd fel rhyfelwyr yn sathru'r heolydd lleidiog yn y frwydr; brwydrant am fod yr ARGLWYDD gyda hwy, a pharant gywilydd i farchogion.

6Gwnaf du375? Jwda yn nerthol, a gwaredaf du375? Joseff; dychwelaf hwy am fy mod yn tosturio wrthynt, a byddant fel pe bawn heb erioed eu gwrthod; oherwydd myfi yw'r ARGLWYDD eu Duw, ac fe'u hatebaf.

7Yna bydd Effraim fel rhyfelwr, a'i galon yn llawenhau fel gan win, a bydd ei blant yn gweld ac yn llawenychu, a'u calonnau'n gorfoleddu yn yr ARGLWYDD.

8Chwibanaf arnynt i'w casglu ynghyd, oherwydd gwaredaf hwy, a byddant cyn amled ag y buont gynt.

9Er imi eu gwasgaru ymysg cenhedloedd, eto mewn gwledydd pell fe'm cofiant, a magu plant, a dychwelyd.

10Dygaf hwy'n �l o wlad yr Aifft, a chasglaf hwy o Asyria; dygaf hwy i mewn i dir Gilead a Lebanon hyd nes y byddant heb le.

11�nt trwy f�r yr argyfwng; trewir tonnau'r m�r, a sychir holl ddyfnderoedd y Neil. Darostyngir balchder Asyria, a throir ymaith deyrnwialen yr Aifft.

12Gwnaf hwy'n nerthol yn yr ARGLWYDD, ac ymdeithiant yn ei enw," medd yr ARGLWYDD.

le>