1Pan edrychais i fyny, gwelais u373?r � llinyn mesur yn ei law,
2a dywedais, "Ble'r wyt ti'n mynd?" Atebodd, "I fesur Jerwsalem, i weld beth yw ei lled a beth yw ei hyd."
3Wrth i'r angel oedd yn siarad � mi ddod allan, daeth angel arall i'w gyfarfod,
4a dweud wrtho, "Rhed i ddweud wrth y llanc acw, 'Bydd Jerwsalem yn faestrefi heb furiau, gan mor niferus fydd pobl ac anifeiliaid ynddi.
5A byddaf fi,' medd yr ARGLWYDD, 'yn fur o d�n o'i hamgylch, a byddaf yn ogoniant yn ei chanol.'"
6Gwyliwch, gwyliwch! Ffowch o dir y gogledd," medd yr ARGLWYDD, "oherwydd taenaf chwi ar led fel pedwar gwynt y nefoedd," medd yr ARGLWYDD.
7Gwyliwch! Ffowch i Seion, chwi sy'n trigo ym Mabilon."
8Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, wedi i'w ogoniant fy anfon at y cenhedloedd sy'n eich ysbeilio, am fod pob un sy'n cyffwrdd � chwi yn cyffwrdd � channwyll ei lygad:
9Wele fi'n ysgwyd fy nwrn yn eu herbyn, a byddant yn ysbail i'w gweision eu hunain." Yna cewch wybod mai ARGLWYDD y Lluoedd a'm hanfonodd.
10Gwaedda a gorfoledda, ferch Seion; oherwydd yr wyf yn dod i drigo yn dy ganol," medd yr ARGLWYDD.
11A bydd cenhedloedd lawer yn glynu wrth yr ARGLWYDD yn y dydd hwnnw, ac yn dod yn bobl i mi, a byddaf yn trigo yn dy ganol, a chei wybod mai ARGLWYDD y Lluoedd a'm hanfonodd atat.
12Bydd yr ARGLWYDD yn etifeddu Jwda yn gyfran iddo yn y tir sanctaidd, a bydd eto yn dewis Jerwsalem.
13Distawed pawb gerbron yr ARGLWYDD, oherwydd y mae wedi codi o'i drigfa sanctaidd."