Sechareia 5:1-11 BCN1988 - Bible AI

1Edrychais i fyny eto, a gweld sgr�l yn ehedeg.

2A dywedodd wrthyf, "Beth a weli?" Dywedais innau, "Yr wyf yn gweld sgr�l yn ehedeg, yn ugain cufydd ei hyd, a'i lled yn ddeg cufydd."

3Yna dywedodd wrthyf, "Dyma'r felltith sy'n mynd allan dros yr holl ddaear: yn �l un ochr, torrir ymaith pwy bynnag sy'n lladrata; yn �l yr ochr arall, torrir ymaith pwy bynnag sy'n tyngu anudon.

4Fe'i hanfonaf allan," medd ARGLWYDD y Lluoedd, "ac fe � i mewn i du375?'r lleidr ac i du375?'r un sy'n tyngu'n gelwyddog yn fy enw; ac fe erys yng nghanol ei du375? a'i ddifetha, yn goed a cherrig."

5Daeth yr angel oedd yn siarad � mi a dweud wrthyf, "Edrych i fyny i weld beth yw hyn sy'n dod i'r golwg."

6Pan ofynnais, "Beth ydyw?" atebodd, "Casgen sy'n dod." A dywedodd, "Dyma'u drygioni trwy'r holl ddaear."

7Yna codwyd y caead plwm, ac yr oedd dynes yn eistedd yn y gasgen.

8Dywedodd yr angel, "Drygioni yw hon," a thaflodd hi i waelod y gasgen a chau'r caead plwm arni.

9Edrychais i fyny, a gweld dwy wraig yn dod, a'r gwynt dan eu hadenydd (yr oedd ganddynt adenydd fel adenydd garan), ac yn codi'r gasgen rhwng nefoedd a daear.

10Yna gofynnais i'r angel oedd yn siarad � mi, "I ble maent yn mynd �'r gasgen?"

11Dywedodd wrthyf, "I godi tu375? iddi yng ngwlad Sinar, a phan fydd yn barod fe'i gadewir yno yn ei lle priodol."

e>