Sechareia 9:1-17 BCN1988 - Bible AI

1Oracl. Gair yr ARGLWYDD yn nhir Hadrach ac yn Namascus, ei orffwysfa. Yn wir, eiddo'r ARGLWYDD yw dinasoedd Aram, fel holl lwythau Israel;

2hefyd Hamath, sy'n terfynu arni, a Tyrus a Sidon, er eu bod yn ddoeth iawn.

3Cododd Tyrus du373?r iddi ei hun; pentyrrodd arian fel llwch, ac aur fel llaid heol.

4Ond wele, y mae'r ARGLWYDD yn cymryd ei heiddo ac yn difetha ei grym ar y m�r; ac ysir hithau yn y t�n.

5Bydd Ascalon yn gweld ac yn ofni, Gasa hefyd, a bydd yn gwingo gan ofid, ac Ecron, oherwydd drysir ei gobaith; derfydd am frenin yn Gasa, a bydd Ascalon heb drigolion;

6pobl gymysgryw fydd yn trigo yn Asdod, a thorraf ymaith falchder y Philistiad.

7Tynnaf ymaith ei waed o'i enau, a'i ffieidd-dra oddi rhwng ei ddannedd; bydd yntau'n weddill i'n Duw ni, ac fel tylwyth yn Jwda; a bydd Ecron fel y Jebusiaid.

8Yna gwersyllaf i wylio fy nhu375?, fel na chaiff neb fynd i mewn nac allan. Ni ddaw gorthrymydd atynt mwyach, oherwydd yr wyf yn gwylio'n awr �'m llygaid fy hun.

9Llawenha'n fawr, ferch Seion; bloeddia'n uchel, ferch Jerwsalem. Wele dy frenin yn dod atat � buddugoliaeth a gwaredigaeth, yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn, ar ebol, llwdn asen.

10Tyr ymaith y cerbyd o Effraim a'r meirch o Jerwsalem; a thorrir ymaith y bwa rhyfel. Bydd yn siarad heddwch �'r cenhedloedd; bydd ei lywodraeth o f�r i f�r, o'r Ewffrates hyd derfynau'r ddaear.

11Amdanat ti, oherwydd gwaed y cyfamod rhyngom, gollyngaf dy garcharorion yn rhydd o'r pydew di-ddu373?r.

12Dychwelwch i'ch amddiffynfa, chwi garcharorion hyderus; heddiw yr wyf yn cyhoeddi i chwi adferiad dauddyblyg.

13Yr wyf wedi plygu fy mwa, Jwda, ac wedi gosod fy saeth ynddo, Effraim; codaf dy feibion, Seion, yn erbyn meibion Groeg, a gwnaf di yn gleddyf rhyfelwr."

14Bydd yr ARGLWYDD yn ymddangos uwch eu pennau, a'i saeth yn fflachio fel mellten; Bydd yr Arglwydd DDUW yn rhoi bloedd �'r utgorn ac yn mynd allan yng nghorwyntoedd y de.

15Bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn amddiffyn iddynt; llwyddant, sathrant y cerrig tafl, byddant yn derfysglyd feddw fel gan win, wedi eu trochi fel cyrn allor.

16Y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD eu Duw yn eu gwaredu; bydd ei bobl fel praidd, fel gemau coron yn disgleirio dros ei dir.

17Mor dda ac mor brydferth fydd! Bydd u375?d yn nerth i'r llanciau, a gwin i'r morynion.

e>