1Gair yr ARGLWYDD, a ddaeth at Seffaneia fab Cushi, fab Gedaleia, fab Amareia, fab Heseceia, yn nyddiau Joseia fab Amon, brenin Jwda.
2Ysgubaf ymaith yn llwyr bopeth oddi ar wyneb y ddaear," medd yr ARGLWYDD.
3Ysgubaf ymaith ddyn ac anifail; ysgubaf ymaith adar y nefoedd a physgod y m�r; darostyngaf y rhai drygionus, a thorraf ymaith ddyn oddi ar wyneb y ddaear," medd yr ARGLWYDD.
4Estynnaf fy llaw yn erbyn Jwda ac yn erbyn holl drigolion Jerwsalem; a thorraf ymaith o'r lle hwn weddill Baal, ac enw'r offeiriaid gau,
5a'r rhai sy'n ymgrymu ar bennau'r tai i lu'r nef, y rhai sy'n ymgrymu ac yn tyngu i'r ARGLWYDD ond hefyd yn tyngu i Milcom,
6a'r rhai sydd wedi cefnu ar yr ARGLWYDD, ac nad ydynt yn ceisio'r ARGLWYDD nac yn ymgynghori ag ef."
7Distawrwydd o flaen yr Arglwydd DDUW! Oherwydd y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos; y mae'r ARGLWYDD wedi paratoi aberth ac wedi cysegru ei wahoddedigion.
8Ac ar ddydd aberth yr ARGLWYDD mi gosbaf y swyddogion a'r tu375? brenhinol, a phawb sy'n gwisgo dillad estron.
9Ar y dydd hwnnw mi gosbaf bawb sy'n camu dros y rhiniog ac yn llenwi tu375? eu harglwydd � thrais a thwyll.
10Ar y dydd hwnnw," medd yr ARGLWYDD, "clywir gwaedd o Borth y Pysgod, a chri o Ail Barth y ddinas, a malurio trystfawr o'r bryniau.
11Gwaeddwch, drigolion y Farchnad. Oherwydd darfu am yr holl fasnachwyr, a thorrwyd ymaith yr holl bwyswyr arian.
12Yn yr amser hwnnw chwiliaf Jerwsalem � llusernau, a chosbaf y rhai sy'n ymbesgi uwch eu gwaddod ac yn dweud wrthynt eu hunain, 'Ni wna'r ARGLWYDD na da na drwg.'
13Anrheithir eu cyfoeth a difethir eu tai; codant dai, ond ni ch�nt fyw ynddynt; plannant winllannoedd, ond ni ch�nt yfed eu gwin."
14Y mae dydd mawr yr ARGLWYDD yn agos, yn agos ac yn dod yn gyflym; chwerw yw trwst dydd yr ARGLWYDD, ac yna y gwaedda'r rhyfelwr yn uchel.
15Dydd dicter yw'r dydd hwnnw, dydd blinder a gofid, dydd dinistr a difrod, dydd tywyllwch a d�wch, dydd cymylau a chaddug,
16dydd utgorn a bloedd rhyfel yn erbyn y dinasoedd caerog ac yn erbyn y tyrau uchel.
17Mi ddof � thrybini ar bobl, a cherddant fel deillion; am iddynt bechu yn erbyn yr ARGLWYDD tywelltir eu gwaed fel llwch a'u perfedd fel tom,
18ac ni all eu harian na'u haur eu gwaredu." Ar ddydd dicter yr ARGLWYDD ysir yr holl dir � th�n ei lid, oherwydd gwna ddiwedd, ie, yn fuan, ar holl drigolion y ddaear.