Seffaneia 3:1-20 BCN1988 - Bible AI

1Gwae'r ddinas orthrymus, yr un wrthryfelgar a budr!

2Ni wrandawodd ar lais neb, ac ni dderbyniodd gyngor; nid ymddiriedodd yn yr ARGLWYDD, ac ni nesaodd at ei Duw.

3Llewod yn rhuo yn ei chanol oedd ei swyddogion; ei barnwyr yn fleiddiaid yr hwyr, heb adael dim tan y bore;

4ei phroffwydi'n rhyfygus ac yn rhai twyllodrus; ei hoffeiriaid yn halogi'r cysegredig ac yn treisio'r gyfraith.

5Ond y mae'r ARGLWYDD yn ei chanol yn gyfiawn; nid yw'n gwneud cam; fore ar �l bore y mae'n traddodi barn heb ballu ar doriad y dydd; ond ni u373?yr yr anghyfiawn gywilydd.

6Torrais ymaith genhedloedd, ac y mae eu tyrau'n garnedd; gwneuthum eu strydoedd yn ddiffeithwch nad eir trwyddo; anrheithiwyd eu dinasoedd, heb bobl, heb drigiannydd.

7Dywedais, 'Bydd yn sicr o'm hofni a derbyn cyngor, ac ni chyll olwg ar y cyfan a ddygais arni.' Ond yr oeddent yn eiddgar i lygru eu holl weithredoedd.

8Felly, disgwyliwch amdanaf," medd yr ARGLWYDD, "am y dydd y codaf yn dyst i'ch erbyn; oherwydd fy mwriad yw casglu cenhedloedd a chynnull teyrnasoedd, i dywallt fy nicter arnynt, holl gynddaredd fy llid; oherwydd � th�n fy llid yr ysir yr holl dir.

9Yna, rhof i'r bobloedd wefus bur, iddynt oll alw ar enw'r ARGLWYDD a'i wasanaethu'n unfryd.

10o'r tu hwnt i afonydd Ethiopia y dygir offrwm i mi gan y rhai ar wasgar sy'n ymbil arnaf.

11Ar y dydd hwnnw ni'th waradwyddir am dy holl waith yn gwrthryfela i'm herbyn; oherwydd symudaf o'th blith y rhai sy'n ymhyfrydu mewn balchder, ac ni fyddi byth mwy'n ymddyrchafu yn fy mynydd sanctaidd.

12Ond gadawaf yn dy fysg bobl ostyngedig ac isel, a bydd gweddill Israel yn ymddiried yn enw'r ARGLWYDD;

13ni wn�nt ddim anghyfiawn na dweud celwydd, ac ni cheir tafod twyllodrus yn eu genau; oherwydd porant, a gorweddant heb neb i'w dychryn."

14C�n, ferch Seion; gwaedda'n uchel, O Israel; llawenha a gorfoledda �'th holl galon, ferch Jerwsalem.

15Trodd yr ARGLWYDD dy gosb oddi wrthyt, a symud dy elynion. Y mae brenin Israel, yr ARGLWYDD, yn dy ganol, ac nid ofni ddrwg mwyach.

16Y dydd hwnnw dywedir wrth Jerwsalem, "Nac ofna, Seion, ac na laesa dy ddwylo;

17y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn dy ganol, yn rhyfelwr i'th waredu; fe orfoledda'n llawen ynot, a'th adnewyddu yn ei gariad; llawenycha ynot � ch�n

18fel ar ddydd gu373?yl. Symudaf aflwydd ymaith oddi wrthyt, rhag bod iti gywilydd o'i blegid.

19Wele fi'n talu'r pwyth i'th orthrymwyr yn yr amser hwnnw; gwaredaf y rhai cloff a chasglaf y rhai gwasgaredig, a rhof iddynt glod ac enw yn holl dir eu gwarth.

20Y pryd hwnnw, pan fydd yn amser i'ch casglu, mi ddof � chwi adref; oherwydd rhof i chwi glod ac enw ymhlith holl bobloedd y ddaear, pan adferaf eich llwyddiant yn eich gu373?ydd," medd yr ARGLWYDD.

e>