Y Llythyr at yr Hebreaid 1:1-14 BCN1988 - Bible AI

1Mewn llawer dull a llawer modd y llefarodd Duw gynt wrth yr hynafiaid trwy'r proffwydi, ond yn y dyddiau olaf hyn llefarodd wrthym ni mewn Mab.

2Hwn yw'r un a benododd Duw yn etifedd pob peth, a'r un y gwnaeth y bydysawd drwyddo.

3Ef yw disgleirdeb gogoniant Duw, ac y mae stamp ei sylwedd ef arno; ac y mae'n cynnal pob peth �'i air nerthol. Ar �l iddo gyflawni puredigaeth pechodau, eisteddodd ar ddeheulaw'r Mawrhydi yn yr uchelder,

4wedi dyfod gymaint yn uwch na'r angylion ag y mae'r enw a etifeddodd yn rhagorach na'r eiddynt hwy.

5Oherwydd wrth bwy o'r angylion y dywedodd Duw erioed: "Fy Mab wyt ti, myfi a'th genhedlodd di heddiw"? Ac eto: "Byddaf fi yn dad iddo ef, a bydd yntau yn fab i mi."

6A thrachefn, pan yw'n dod �'i gyntafanedig i mewn i'r byd, y mae'n dweud: "A bydded i holl angylion Duw ei addoli."

7Am yr angylion y mae'n dweud: "Yr hwn sy'n gwneud ei angylion yn wyntoedd, a'i weinidogion yn fflam d�n";

8ond am y Mab: "Y mae dy orsedd di, O Dduw, yn dragwyddol, a gwialen dy deyrnas di yw gwialen uniondeb.

9Ceraist gyfiawnder a chas�u anghyfraith. Am hynny, O Dduw, y mae dy Dduw di wedi dy eneinio ag olew gorfoledd, uwchlaw dy gymheiriaid."

10Y mae hefyd yn dweud: "Ti, yn y dechrau, Arglwydd, a osodaist sylfeini'r ddaear, a gwaith dy ddwylo di yw'r nefoedd.

11Fe ddarfyddant hwy, ond yr wyt ti'n aros; �nt hwy i gyd yn hen fel dilledyn;

12plygi hwy fel plygu mantell, a newidir hwy fel newid dilledyn; ond tydi, yr un ydwyt, ac ar dy flynyddoedd ni bydd diwedd."

13Wrth bwy o'r angylion y dywedodd ef erioed: "Eistedd ar fy neheulaw nes imi osod dy elynion yn droedfainc i'th draed"?

14Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt oll, yn cael eu hanfon i weini, er mwyn y rhai sydd i etifeddu iachawdwriaeth?

footer>