Y Llythyr at yr Hebreaid 3:1-19 BCN1988 - Bible AI

1Gan hynny, gyfeillion sanctaidd, chwychwi sy'n cyfranogi o alwad nefol, ystyriwch Apostol ac Archoffeiriad ein cyffes ni, sef Iesu,

2a fu'n ffyddlon i'r hwn a'i penododd, fel y bu Moses hefyd yn ffyddlon yn holl du375? Dduw.

3Oherwydd y mae Iesu wedi ei gyfrif yn deilwng o ogoniant mwy na Moses, yn gymaint � bod adeiladydd tu375? yn derbyn mwy o anrhydedd na'r tu375?.

4Y mae pob tu375? yn cael ei adeiladu gan rywun, ond Duw yw adeiladydd pob peth.

5Bu Moses yn ffyddlon yn holl du375? Dduw fel gwas, i ddwyn tystiolaeth i'r pethau yr oedd Duw yn mynd i'w llefaru;

6ond y mae Crist yn ffyddlon fel Mab sydd � rheolaeth ar du375? Dduw. A ni yw ei du375? ef, os daliwn ein gafael yn y gobaith yr ydym yn hyderu ac yn ymffrostio ynddo.

7Gan hynny, fel y mae'r Ysbryd Gl�n yn dweud: "Heddiw, os gwrandewch ar ei lais,

8peidiwch � chaledu'ch calonnau fel yn y gwrthryfel, yn nydd y profi yn yr anialwch,

9lle y gosododd eich hynafiaid fi ar brawf, a'm profi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd am ddeugain mlynedd.

10Dyna pam y digiais wrth y genhedlaeth honno, a dweud, 'Y maent yn wastad yn cyfeiliorni yn eu calonnau, ac nid ydynt yn gwybod fy ffyrdd.'

11Felly tyngais yn fy nig, 'Ni ch�nt fyth ddod i mewn i'm gorffwysfa.'"

12Gwyliwch, gyfeillion, na fydd yn neb ohonoch byth galon ddrwg anghrediniol, i beri iddo gefnu ar y Duw byw.

13Yn hytrach, calonogwch eich gilydd bob dydd, tra gelwir hi'n "heddiw", rhag i neb ohonoch gael ei galedu gan dwyll pechod.

14Oherwydd yr ydym ni bellach yn gydgyfranogion � Christ, os glynwn yn dynn hyd y diwedd wrth ein hyder cyntaf.

15Dyma'r hyn y mae'r Ysgrythur yn ei ddweud: "Heddiw, os gwrandewch ar ei lais, peidiwch � chaledu'ch calonnau fel yn y gwrthryfel."

16Pwy, felly, a glywodd, ac a wrthryfelodd wedyn? Onid pawb oedd wedi dod allan o'r Aifft dan arweiniad Moses?

17Ac wrth bwy y digiodd ef am ddeugain mlynedd? Onid wrth y rhai a bechodd, y rhai y syrthiodd eu cyrff yn farw yn yr anialwch?

18Wrth bwy y tyngodd na chaent fyth ddod i mewn i'w orffwysfa, os nad wrth y rhai a fu'n anufudd?

19Ac yr ydym yn gweld mai o achos anghrediniaeth y methasant ddod i mewn.

footer>