Y Llythyr at yr Hebreaid 4:1-16 BCN1988 - Bible AI

1Gochelwn, felly, rhag i neb ohonoch fod wedi eich cau allan megis, a'r addewid yn aros y cawn ddod i mewn i'w orffwysfa ef.

2Oherwydd fe gyhoeddwyd y newyddion da, yn wir, i ni fel iddynt hwythau, ond ni bu'r gair a glywsant o unrhyw fudd iddynt hwy, am nad oeddent wedi eu huno mewn ffydd �'r sawl oedd wedi gwrando ar y gair.

3Oblegid nyni, y rhai sydd wedi credu, sydd yn mynd i mewn i'r orffwysfa, yn unol �'r hyn a ddywedodd: "Felly tyngais yn fy nig, 'Ni ch�nt fyth ddod i mewn i'm gorffwysfa.'" Ac eto yr oedd ei waith wedi ei orffen er seiliad y byd.

4Oherwydd y mae gair yn rhywle am y seithfed dydd fel hyn: "A gorffwysodd Duw ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith."

5Felly hefyd yma: "Ni ch�nt fyth ddod i mewn i'm gorffwysfa."

6Felly, gan ei bod yn sicr y bydd rhai yn cael dod i mewn iddi, a chan fod y rhai y cyhoeddwyd y newyddion da iddynt gynt heb ddod i mewn oherwydd anufudd-dod,

7y mae ef drachefn yn pennu dydd neilltuol, sef "Heddiw", gan lefaru trwy Ddafydd ar �l cymaint o amser, fel y dyfynnwyd o'r blaen: "Heddiw, os gwrandewch ar ei lais, peidiwch � chaledu'ch calonnau."

8Oherwydd petai Josua wedi rhoi gorffwys iddynt, ni byddai Duw wedi s�n ar �l hynny am ddiwrnod arall.

9Felly, y mae gorffwysfa'r Saboth yn aros yn sicr i bobl Dduw.

10Oherwydd mae pwy bynnag a ddaeth i mewn i'w orffwysfa ef yn gorffwys oddi wrth ei waith, fel y gorffwysodd Duw oddi wrth ei waith yntau.

11Gadewch inni ymdrechu, felly, i fynd i mewn i'r orffwysfa honno, rhag i neb syrthio o achos yr un math o anufudd-dod.

12Y mae gair Duw yn fyw a grymus; y mae'n llymach na'r un cleddyf daufiniog, ac yn treiddio hyd at wahaniad yr enaid a'r ysbryd, y cymalau a'r m�r; ac y mae'n barnu bwriadau a meddyliau'r galon.

13Nid oes dim a grewyd yn guddiedig o'i olwg, ond y mae pob peth yn agored ac wedi ei ddinoethi o flaen llygaid yr Un yr ydym ni i roi cyfrif iddo.

14Gan fod gennym, felly, archoffeiriad mawr sydd wedi mynd drwy'r nefoedd, sef Iesu, Mab Duw, gadewch inni lynu wrth ein cyffes.

15Canys nid archoffeiriad heb allu cyd-ddioddef �'n gwendidau sydd gennym, ond un sydd wedi ei demtio ym mhob peth, yn yr un modd � ni, ac eto heb bechod.

16Felly, gadewch inni nes�u mewn hyder at orsedd gras, er mwyn derbyn trugaredd a chael gras yn gymorth yn ei bryd.

footer>