1O blith dynion y bydd pob archoffeiriad yn cael ei ddewis, ac ar ran pobl feidrol y caiff ei benodi i'w cynrychioli mewn materion yn ymwneud � Duw, i offrymu rhoddion ac aberthau dros bechodau.
2Y mae'n gallu cydymddwyn �'r rhai anwybodus a chyfeiliornus, gan ei fod yntau hefyd wedi ei amgylchu � gwendid;
3ac oherwydd y gwendid hwn, rhaid iddo offrymu dros bechodau ar ei ran ei hun, fel ar ran y bobl.
4Nid oes neb yn cymryd yr anrhydedd iddo'i hun; Duw sydd yn ei alw, fel y galwodd Aaron.
5Felly hefyd gyda Christ. Nid ei ogoneddu ei hun i fod yn archoffeiriad a wnaeth, ond Duw a ddywedodd wrtho: "Fy Mab wyt ti, myfi a'th genhedlodd di heddiw."
6Fel y mae'n dweud mewn lle arall hefyd: "Yr wyt ti'n offeiriad am byth yn �l urdd Melchisedec."
7Yn nyddiau ei gnawd, fe offrymodd Iesu wedd�au ac erfyniadau, gyda llef uchel a dagrau, i'r Un oedd yn abl i'w achub rhag marwolaeth, ac fe gafodd ei wrando o achos ei barchedig ofn.
8Er mai Mab ydoedd, dysgodd ufudd-dod drwy'r hyn a ddioddefodd,
9ac wedi ei berffeithio, daeth yn ffynhonnell iachawdwriaeth dragwyddol i bawb sydd yn ufuddhau iddo,
10wedi ei enwi gan Dduw yn archoffeiriad yn �l urdd Melchisedec.
11Am Melchisedec y mae gennym lawer i'w ddweud sydd yn anodd ei egluro, oherwydd eich bod chwi wedi mynd yn araf i ddeall.
12Yn wir, er y dylech erbyn hyn fod yn athrawon, y mae arnoch angen rhywun i ailddysgu ichwi elfennau cyntaf oraclau Duw; angen llaeth sydd arnoch chwi, ac nid bwyd cryf.
13Nid oes gan y sawl sy'n byw ar laeth ddim profiad o egwyddor cyfiawnder, am mai baban ydyw.
14Pobl wedi cyrraedd eu llawn dwf sy'n cymryd bwyd cryf; y mae eu synhwyrau hwy, trwy ymarfer, wedi eu disgyblu i farnu rhwng da a drwg.