Y Llythyr at yr Hebreaid 9:1-28 BCN1988 - Bible AI

1Yn awr, yr oedd gan y cyfamod cyntaf hefyd ordinhadau addoliad, a chysegr, ond mai cysegr daearol oedd.

2Oblegid codwyd pabell, sef y gyntaf, ac ynddi hi yr oedd y canhwyllbren a'r bwrdd a'r bara gosod; gelwir hon yn Gysegr.

3A'r tu �l i'r ail len yr oedd y babell a elwir yn Gysegr Sancteiddiaf,

4lle'r oedd allor aur yr arogldarth, ac arch y cyfamod wedi ei goreuro drosti i gyd; yn honno yr oedd llestr aur yn dal y manna, a gwialen Aaron, a flagurodd unwaith, a llechau'r cyfamod;

5ac uwch ei phen yr oedd cerwbiaid y gogoniant, yn cysgodi'r drugareddfa. Am y rhain ni ellir manylu yn awr.

6Yn �l y trefniadau hyn, y mae'r offeiriaid yn mynd i mewn yn barhaus i'r babell gyntaf i gyflawni'r gwasanaethau;

7ond yr archoffeiriad yn unig sy'n mynd i'r ail, unwaith yn y flwyddyn, ac nid yw yntau'n mynd heb waed i'w offrymu drosto'i hun a thros bechodau anfwriadol y bobl.

8Yn hyn, y mae'r Ysbryd Gl�n yn dangos nad oedd y ffordd i'r cysegr wedi ei hamlygu cyhyd ag yr oedd y tabernacl cyntaf yn sefyll.

9Y mae hyn oll yn arwyddlun ar gyfer yr amser presennol. Yn �l y drefn hon offrymir rhoddion ac aberthau na allant berffeithio'r addolwr yn ei gydwybod,

10oherwydd y maent yn ymwneud yn unig � bwydydd a diodydd ac amrywiol olchiadau, ordinhadau allanol sydd wedi eu gosod hyd amser y drefn newydd.

11Ond yn awr daeth Crist, archoffeiriad y pethau da sydd wedi dod. Trwy dabernacl rhagorach a pherffeithiach, nid o waith llaw (hynny yw, nid o'r greadigaeth hon),

12ac nid � gwaed geifr a lloi, ond �'i waed ei hun, yr aeth ef i mewn un waith am byth i'r cysegr, a sicrhau prynedigaeth dragwyddol.

13Oblegid os yw gwaed geifr a theirw, a lludw anner, o'i daenu ar yr halogedig, yn sancteiddio hyd at buredigaeth allanol,

14pa faint mwy y bydd gwaed Crist, yr hwn a'i hoffrymodd ei hun trwy'r Ysbryd tragwyddol yn ddi-nam i Dduw, yn puro ein cydwybod ni oddi wrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu'r Duw byw.

15Am hynny, y mae ef yn gyfryngwr cyfamod newydd, er mwyn i'r rhai sydd wedi eu galw gael derbyn yr etifeddiaeth dragwyddol a addawyd, gan fod marwolaeth wedi digwydd er sicrhau rhyddhad oddi wrth y troseddau a gyflawnwyd dan y cyfamod cyntaf.

16Oherwydd lle y mae ewyllys, y mae'n rhaid profi marwolaeth y sawl a'i gwnaeth;

17ar farwolaeth dyn y bydd ewyllys yn dod yn effeithiol; nid yw byth mewn grym tra bydd y sawl a'i gwnaeth yn fyw.

18Felly, ni sefydlwyd y cyfamod cyntaf, hyd yn oed, heb waed.

19Oblegid ar �l i Moses gyhoeddi i'r holl bobl bob gorchymyn yn �l y Gyfraith, cymerodd waed lloi a geifr, gyda du373?r a gwl�n ysgarlad ac isop, a'i daenellu ar y llyfr ei hun ac ar yr holl bobl hefyd,

20gan ddweud, "Hwn yw gwaed y cyfamod a ordeiniodd Duw ar eich cyfer."

21Ac yn yr un modd taenellodd waed ar y tabernacl hefyd, ac ar holl lestri'r gwasanaeth.

22Yn wir, � gwaed y mae pob peth bron, yn �l y Gyfraith, yn cael ei buro, a heb dywallt gwaed nid oes maddeuant.

23Gan hynny, yr oedd yn rhaid i gysgodau o'r pethau nefol gael eu puro �'r pethau hyn, ond y pethau nefol eu hunain ag aberthau gwell na'r rhai hyn.

24Oherwydd nid i gysegr o waith llaw, rhyw lun o'r cysegr gwirioneddol, yr aeth Crist i mewn, ond i'r nef ei hun, i ymddangos yn awr gerbron Duw drosom ni.

25Ac nid i'w offrymu ei hun yn fynych y mae'n mynd, fel y bydd yr archoffeiriad yn mynd i mewn i'r cysegr bob blwyddyn � gwaed arall na'r eiddo ei hun;

26petai felly, buasai wedi gorfod dioddef yn fynych er seiliad y byd. Ond yn awr, un waith am byth, ar ddiwedd yr oesoedd, y mae ef wedi ymddangos er mwyn dileu pechod drwy ei aberthu ei hun.

27Ac yn gymaint ag y gosodwyd i ddynion eu bod i farw un waith, a bod barn yn dilyn hynny,

28felly hefyd bydd Crist, ar �l cael ei offrymu un waith i ddwyn pechodau llawer, yn ymddangos yr ail waith, nid i ddelio � phechod, ond er iachawdwriaeth i'r rhai sydd yn disgwyl amdano.

footer>