Yr Efengyl yn ôl Ioan 12:1-50 BCN1988 - Bible AI

1Chwe diwrnod cyn y Pasg, daeth Iesu i Fethania, lle'r oedd Lasarus yn byw, y dyn yr oedd wedi ei godi oddi wrth y meirw.

2Yno gwnaethpwyd iddo swper; yr oedd Martha yn gweini, a Lasarus yn un o'r rhai oedd gydag ef wrth y bwrdd.

3A chymerodd Mair fesur o ennaint costfawr, nard pur, ac eneiniodd draed Iesu a'u sychu �'i gwallt. A llanwyd y tu375? gan bersawr yr ennaint.

4A dyma Jwdas Iscariot, un o'i ddisgyblion, yr un oedd yn mynd i'w fradychu, yn dweud,

5Pam na werthwyd yr ennaint hwn am dri chant o ddarnau arian, a'i roi i'r tlodion?"

6Ond fe ddywedodd hyn, nid am fod gofal ganddo am y tlodion, ond am mai lleidr ydoedd, yn cymryd o'r cyfraniadau yn y god arian oedd yn ei ofal.

7Gad lonydd iddi," meddai Iesu, "er mwyn iddi gadw'r ddefod ar gyfer dydd fy nghladdedigaeth.

8Y mae'r tlodion gyda chwi bob amser, ond nid wyf fi gyda chwi bob amser."

9Daeth tyrfa fawr o'r Iddewon i wybod ei fod yno, a daethant ato, nid o achos Iesu yn unig, ond er mwyn gweld Lasarus hefyd, y dyn yr oedd ef wedi ei godi oddi wrth y meirw.

10Ond gwnaeth y prif offeiriaid gynllwyn i ladd Lasarus hefyd,

11gan fod llawer o'r Iddewon, o'i achos ef, yn gwrthgilio ac yn credu yn Iesu.

12Trannoeth, clywodd y dyrfa fawr a oedd wedi dod i'r u373?yl fod Iesu'n dod i Jerwsalem.

13Cymerasant ganghennau o'r palmwydd ac aethant allan i'w gyfarfod, gan weiddi: "Hosanna! Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd, yn Frenin Israel."

14Cafodd Iesu hyd i asyn ifanc ac eistedd arno, fel y mae'n ysgrifenedig:

15Paid ag ofni, ferch Seion; wele dy frenin yn dod, yn eistedd ar ebol asen."

16Ar y cyntaf ni ddeallodd y disgyblion ystyr y pethau hyn, ond wedi i Iesu gael ei ogoneddu, cofiasant fod y pethau hyn yn ysgrifenedig amdano, ac iddynt eu gwneud iddo.

17Yr oedd y dyrfa, a oedd gydag ef pan alwodd Lasarus o'r bedd a'i godi o blith y meirw, yn tystiolaethu am hynny.

18Dyna pam yr aeth tyrfa'r u373?yl i'w gyfarfod � yr oeddent wedi clywed am yr arwydd yma yr oedd wedi ei wneud.

19Gan hynny, dywedodd y Phariseaid wrth ei gilydd, "Edrychwch, nid ydych yn llwyddo o gwbl. Aeth y byd i gyd ar ei �l ef."

20Ymhlith y bobl oedd yn dod i fyny i addoli ar yr u373?yl, yr oedd rhyw Roegiaid.

21Daeth y rhain at Philip, a oedd o Bethsaida yng Ngalilea, a gofyn iddo, "Syr, fe hoffem weld Iesu."

22Aeth Philip i ddweud wrth Andreas; ac aeth Andreas a Philip i ddweud wrth Iesu.

23A dyma Iesu'n eu hateb. "Y mae'r awr wedi dod," meddai, "i Fab y Dyn gael ei ogoneddu.

24Yn wir, yn wir, rwy'n dweud wrthych, os nad yw'r gronyn gwenith yn syrthio i'r ddaear ac yn marw, y mae'n aros ar ei ben ei hun; ond os yw'n marw, y mae'n dwyn llawer o ffrwyth.

25Y mae'r sawl sy'n caru ei einioes yn ei cholli; a'r sawl sy'n cas�u ei einioes yn y byd hwn, bydd yn ei chadw i fywyd tragwyddol.

26Os yw rhywun am fy ngwasanaethu i, rhaid iddo fy nghanlyn i; lle bynnag yr wyf fi, yno hefyd y bydd fy ngwasanaethwr. Os yw rhywun yn fy ngwasanaethu i, fe gaiff ei anrhydeddu gan y Tad.

27Yn awr y mae fy enaid mewn cynnwrf. Beth a ddywedaf? 'O Dad, gwared fi rhag yr awr hon'? Na, i'r diben hwn y deuthum i'r awr hon.

28O Dad, gogonedda dy enw." Yna daeth llais o'r nef: "Yr wyf wedi ei ogoneddu, ac fe'i gogoneddaf eto."

29Pan glywodd y dyrfa oedd yn sefyll gerllaw, dechreusant ddweud mai taran oedd; dywedodd eraill, "Angel sydd wedi llefaru wrtho."

30Atebodd Iesu, "Nid er fy mwyn i, ond er eich mwyn chwi, y daeth y llais hwn.

31Dyma awr barnu'r byd hwn; yn awr y mae tywysog y byd hwn i gael ei fwrw allan.

32A minnau, os caf fy nyrchafu oddi ar y ddaear, fe dynnaf bawb ataf fy hun."

33Dywedodd hyn i ddangos beth fyddai dull y farwolaeth oedd yn ei aros.

34Yna atebodd y dyrfa ef: "Yr ydym ni wedi dysgu o'r Gyfraith fod y Meseia i aros am byth. Sut yr wyt ti'n dweud, felly, bod yn rhaid i Fab y Dyn gael ei ddyrchafu? Pwy yw'r Mab y Dyn yma?"

35Dywedodd Iesu wrthynt, "Am ychydig amser eto y bydd y goleuni yn eich plith. Rhodiwch tra bo'r goleuni gennych, rhag i'r tywyllwch eich goddiweddyd. Nid yw'r sawl sy'n rhodio yn y tywyllwch yn gwybod lle y mae'n mynd.

36Tra bo'r goleuni gennych, credwch yn y goleuni, ac felly plant y goleuni fyddwch." Wedi iddo lefaru'r geiriau hyn, aeth Iesu i ffwrdd ac ymguddio rhagddynt.

37Er iddo wneud cynifer o arwyddion yng ngu373?ydd y bobl, nid oeddent yn credu ynddo.

38Cyflawnwyd felly y gair a ddywedodd y proffwyd Eseia: "Arglwydd, pwy a gredodd yr hyn a glywsant gennym? I bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd?"

39O achos hyn ni allent gredu, oherwydd dywedodd Eseia beth arall:

40Y mae ef wedi dallu eu llygaid, ac wedi tywyllu eu deall, rhag iddynt weld �'u llygaid, a deall �'u meddwl, a throi'n �l, i mi eu hiach�u."

41Dywedodd Eseia hyn am iddo weld ei ogoniant; amdano ef yr oedd yn llefaru.

42Eto i gyd fe gredodd llawer hyd yn oed o'r llywodraethwyr ynddo ef; ond o achos y Phariseaid ni fynnent ei arddel, rhag iddynt gael eu torri allan o'r synagog.

43Dewisach oedd ganddynt glod gan bobl na chlod gan Dduw.

44Cyhoeddodd Iesu: "Y mae'r sawl sy'n credu ynof fi yn credu nid ynof fi ond yn yr un a'm hanfonodd i.

45Ac y mae'r sawl sy'n fy ngweld i yn gweld yr un a'm hanfonodd i.

46Yr wyf fi wedi dod i'r byd yn oleuni, ac felly nid yw neb sy'n credu ynof fi yn aros yn y tywyllwch.

47Os yw rhywun yn clywed fy ngeiriau i ac yn gwrthod eu cadw, nid myfi sy'n ei farnu, oherwydd ni ddeuthum i farnu'r byd ond i achub y byd.

48Y mae gan y sawl sy'n fy ngwrthod i, ac yn peidio � derbyn fy ngeiriau, un sydd yn ei farnu. Bydd y gair hwnnw a leferais i yn ei farnu yn y dydd olaf.

49Oherwydd nid ohonof fy hunan y lleferais, ond y Tad ei hun, hwnnw a'm hanfonodd i, sydd wedi rhoi gorchymyn i mi beth a ddywedaf a beth a lefaraf.

50A gwn fod ei orchymyn ef yn fywyd tragwyddol. Yr hyn yr wyf fi'n ei lefaru, felly, rwy'n ei lefaru yn union fel y mae'r Tad wedi dweud wrthyf."

oter>