1Y trydydd dydd yr oedd priodas yng Nghana Galilea, ac yr oedd mam Iesu yno.
2Gwahoddwyd Iesu hefyd, a'i ddisgyblion, i'r briodas.
3Pallodd y gwin, ac meddai mam Iesu wrtho ef, "Nid oes ganddynt win."
4Dywedodd Iesu wrthi hi, "Wraig, beth sydd a fynni di � mi? Nid yw f'awr i wedi dod eto."
5Dywedodd ei fam wrth y gwas-anaethyddion, "Gwnewch beth bynnag a ddywed wrthych."
6Yr oedd yno chwech o lestri carreg i ddal du373?r, wedi eu gosod ar gyfer defod glanhad yr Iddewon, a phob un yn dal ugain neu ddeg ar hugain o alwyni.
7Dywedodd Iesu wrthynt, "Llanwch y llestri � du373?r," a llanwasant hwy hyd yr ymyl.
8Yna meddai wrthynt, "Yn awr tynnwch beth allan ac ewch ag ef i lywydd y wledd." A gwnaethant felly.
9Profodd llywydd y wledd y du373?r, a oedd bellach yn win, heb wybod o ble'r oedd wedi dod, er bod y gwasanaethyddion a fu'n tynnu'r du373?r yn gwybod. Yna galwodd llywydd y wledd ar y priodfab
10ac meddai wrtho, "Bydd pawb yn rhoi'r gwin da yn gyntaf, ac yna, pan fydd pobl wedi meddwi, y gwin salach; ond yr wyt ti wedi cadw'r gwin da hyd yn awr."
11Gwnaeth Iesu hyn, y cyntaf o'i arwyddion, yng Nghana Galilea; amlygodd felly ei ogoniant, a chredodd ei ddisgyblion ynddo.
12Wedi hyn aeth ef a'i fam a'i frodyr a'i ddisgyblion i lawr i Gapernaum, ac aros yno am ychydig ddyddiau.
13Yr oedd Pasg yr Iddewon yn ymyl, ac aeth Iesu i fyny i Jerwsalem.
14A chafodd yn y deml y rhai oedd yn gwerthu ychen a defaid a cholomennod, a'r cyfnewidwyr arian wrth eu byrddau.
15Gwnaeth chwip o gordenni, a gyrrodd hwy oll allan o'r deml, y defaid a'r ychen hefyd. Taflodd arian m�n y cyfnewidwyr ar chw�l, a bwrw eu byrddau wyneb i waered.
16Ac meddai wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, "Ewch �'r rhain oddi yma. Peidiwch � gwneud tu375? fy Nhad i yn du375? masnach."
17Cofiodd ei ddisgyblion eiriau'r Ysgrythur: "Bydd s�l dros dy du375? di yn fy ysu."
18Yna heriodd yr Iddewon ef a gofyn, "Pa arwydd sydd gennyt i'w ddangos i ni, yn awdurdod dros wneud y pethau hyn?"
19Atebodd Iesu hwy: "Dinistriwch y deml hon, ac mewn tridiau fe'i codaf hi."
20Dywedodd yr Iddewon, "Chwe blynedd a deugain y bu'r deml hon yn cael ei hadeiladu, ac a wyt ti'n mynd i'w chodi mewn tridiau?"
21Ond s�n yr oedd ef am deml ei gorff.
22Felly, wedi iddo gael ei gyfodi oddi wrth y meirw, cofiodd ei ddisgyblion iddo ddweud hyn, a chredasant yr Ysgrythur, a'r gair yr oedd Iesu wedi ei lefaru.
23Tra oedd yn Jerwsalem yn dathlu gu373?yl y Pasg, credodd llawer yn ei enw ef wrth weld yr arwyddion yr oedd yn eu gwneud.
24Ond nid oedd Iesu yn ei ymddiried ei hun iddynt, oherwydd yr oedd yn adnabod y natur ddynol.
25Nid oedd arno angen tystiolaeth neb ynglu375?n �'r ddynolryw; yr oedd ef ei hun yn gwybod beth oedd mewn dynion.