Yr Efengyl yn ôl Luc 17:1-37 BCN1988 - Bible AI

1Dywedodd wrth ei ddisgyblion, "Y mae achosion cwymp yn rhwym o ddod, ond gwae'r sawl sy'n gyfrifol amdanynt;

2byddai'n well iddo fod wedi ei daflu i'r m�r � maen melin ynghrog am ei wddf, nag iddo fod yn achos cwymp i un o'r rhai bychain hyn.

3Cymerwch ofal. Os pecha dy gyfaill, cerydda ef; os edifarha, maddau iddo;

4os pecha yn dy erbyn saith gwaith mewn diwrnod, ac eto troi'n �l atat saith gwaith gan ddweud, 'Y mae'n edifar gennyf', maddau iddo."

5Meddai'r apostolion wrth yr Arglwydd, "Cryfha ein ffydd."

6Ac meddai'r Arglwydd, "Pe bai gennych ffydd gymaint � hedyn mwstard, fe allech ddweud wrth y forwydden hon, 'Coder dy wreiddiau a phlanner di yn y m�r', a byddai'n ufuddhau i chwi.

7Os oes gan un ohonoch was sy'n aredig neu'n bugeilio, a fydd yn dweud wrtho pan ddaw i mewn o'r caeau, 'Tyrd yma ar unwaith a chymer dy le wrth y bwrdd'?

8Na, yr hyn a ddywed fydd, 'Paratoa swper imi; torcha dy wisg a gweina arnaf nes imi orffen bwyta ac yfed; ac wedyn cei fwyta ac yfed dy hun.'

9A yw'n diolch i'w was am gyflawni'r gorchmynion a gafodd?

10Felly chwithau; pan fyddwch wedi cyflawni'r holl orchmynion a gawsoch, dywedwch, 'Gweision ydym, heb unrhyw deilyngdod; cyflawni ein dyletswydd a wnaethom.'"

11Yr oedd ef, ar ei ffordd i Jerwsalem, yn mynd trwy'r wlad rhwng Samaria a Galilea,

12ac yn mynd i mewn i ryw bentref, pan ddaeth deg o ddynion gwahanglwyfus i gyfarfod ag ef. Safasant bellter oddi wrtho

13a chodi eu lleisiau arno: "Iesu, feistr, trugarha wrthym."

14Gwelodd ef hwy ac meddai wrthynt, "Ewch i'ch dangos eich hunain i'r offeiriaid." Ac ar eu ffordd yno, fe'u glanhawyd hwy.

15Ac un ohonynt, pan welodd ei fod wedi ei iach�u, a ddychwelodd gan ogoneddu Duw � llais uchel.

16Syrthiodd ar ei wyneb wrth draed Iesu gan ddiolch iddo; a Samariad oedd ef.

17Atebodd Iesu, "Oni lanhawyd y deg? Ble mae'r naw?

18Ai'r estron hwn yn unig a gafwyd i ddychwelyd ac i roi gogoniant i Dduw?"

19Yna meddai wrtho, "Cod, a dos ar dy hynt; dy ffydd sydd wedi dy iach�u di."

20Gofynnwyd iddo gan y Phariseaid pryd y deuai teyrnas Dduw. Atebodd hwy, "Nid rhywbeth i wylio amdano yw dyfodiad teyrnas Dduw.

21Ni bydd pobl yn dweud, 'Dyma hi', neu 'Dacw hi'; edrychwch, y mae teyrnas Dduw yn eich plith chwi."

22Ac meddai wrth ei ddisgyblion, "Daw dyddiau pan fyddwch yn dyheu am gael gweld un o ddyddiau Mab y Dyn, ac ni welwch mohono.

23Dywedant wrthych, 'Dacw ef', neu 'Dyma ef'; peidiwch � mynd, peidiwch � rhedeg ar eu h�l.

24Oherwydd fel y fellten sy'n fflachio o'r naill gwr o'r nef hyd y llall, felly y bydd Mab y Dyn yn ei ddydd ef.

25Ond yn gyntaf y mae'n rhaid iddo ddioddef llawer, a chael ei wrthod gan y genhedlaeth hon.

26Ac fel y bu hi yn nyddiau Noa, felly hefyd y bydd hi yn nyddiau Mab y Dyn:

27yr oedd pobl yn bwyta, yn yfed, yn cymryd gwragedd, yn cael gwu375?r, hyd y dydd yr aeth Noa i mewn i'r arch ac y daeth y dilyw a difa pawb.

28Fel y bu hi yn nyddiau Lot: yr oedd pobl yn bwyta, yn yfed, yn prynu, yn gwerthu, yn plannu, yn adeiladu;

29ond y dydd yr aeth Lot allan o Sodom, fe lawiodd t�n a brwmstan o'r nef a difa pawb.

30Yn union felly y bydd hi yn y dydd y datguddir Mab y Dyn.

31Y dydd hwnnw, os bydd rhywun ar y to, a'i bethau yn y tu375?, peidied � mynd i lawr i'w cipio; a'r un modd peidied neb fydd yn y cae � throi yn ei �l.

32Cofiwch wraig Lot.

33Pwy bynnag a gais gadw ei fywyd ei hun, fe'i cyll, a phwy bynnag a'i cyll, fe'i ceidw yn fyw.

34Rwy'n dweud wrthych, y nos honno bydd dau mewn un gwely; cymerir y naill a gadewir y llall.

35Bydd dwy wraig yn malu yn yr un lle; cymerir y naill a gadewir y llall."

36[{cf15i Bydd dau yn y cae; cymerir y naill a gadewir y llall.}]

37Ac atebasant hwythau ef, "Ble, Arglwydd?" Meddai ef wrthynt, "Lle bydd y gelain, yno yr heidia'r fwlturiaid."

ter>