Yr Efengyl yn ôl Luc 18:1-43 BCN1988 - Bible AI

1Dywedodd ddameg wrthynt i ddangos fod yn rhaid iddynt wedd�o bob amser yn ddiflino:

2Mewn rhyw dref yr oedd barnwr. Nid oedd yn ofni Duw nac yn parchu eraill.

3Yn y dref honno yr oedd hefyd wraig weddw a fyddai'n mynd ger ei fron ac yn dweud, 'Rho imi ddedfryd gyfiawn yn erbyn fy ngwrthwynebwr.'

4Am hir amser daliodd i'w gwrthod, ond yn y diwedd meddai wrtho'i hun, 'Er nad wyf yn ofni Duw nac yn parchu eraill,

5eto, am fod y wraig weddw yma yn fy mhoeni o hyd, fe roddaf iddi'r ddedfryd, rhag iddi ddal i ddod a'm plagio i farwolaeth.'"

6Ac meddai'r Arglwydd, "Clywch eiriau'r barnwr anghyfiawn.

7A fydd Duw yn gwrthod cyfiawnder i'w etholedigion, sy'n galw'n daer arno ddydd a nos? A fydd ef yn oedi yn eu hachos hwy?

8Rwy'n dweud wrthych y rhydd ef gyfiawnder iddynt yn ebrwydd. Ond eto, pan ddaw Mab y Dyn, a gaiff ef ffydd ar y ddaear?"

9Dywedodd hefyd y ddameg hon wrth rai oedd yn sicr eu bod hwy eu hunain yn gyfiawn, ac yn dirmygu pawb arall:

10Aeth dau ddyn i fyny i'r deml i wedd�o, y naill yn Pharisead a'r llall yn gasglwr trethi.

11Safodd y Pharisead wrtho'i hun a gwedd�o fel hyn: 'O Dduw, yr wyf yn diolch iti am nad wyf fi fel pawb arall, yn rheibus, yn anghyfiawn, yn odinebus, na chwaith fel y casglwr trethi yma.

12Yr wyf yn ymprydio ddwywaith yr wythnos, ac yn talu degwm ar bopeth a gaf.'

13Ond yr oedd y casglwr trethi yn sefyll ymhell i ffwrdd, heb geisio cymaint � chodi ei lygaid tua'r nef; yr oedd yn curo ei fron gan ddweud, 'O Dduw, bydd drugarog wrthyf fi, bechadur.'

14Rwy'n dweud wrthych, dyma'r un a aeth adref wedi ei gyfiawnhau, nid y llall; oherwydd darostyngir pob un sy'n ei ddyrchafu ei hun, a dyrchefir pob un sy'n ei ddarostwng ei hun."

15Yr oeddent yn dod �'u babanod hefyd ato, iddo gyffwrdd � hwy, ond wrth weld hyn dechreuodd y disgyblion eu ceryddu.

16Ond galwodd Iesu'r plant ato gan ddweud, "Gadewch i'r plant ddod ataf fi a pheidiwch �'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas Dduw yn perthyn.

17Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag nad yw'n derbyn teyrnas Dduw yn null plentyn, nid � byth i mewn iddi."

18Gofynnodd rhyw lywodraethwr iddo, "Athro da, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?"

19Dywedodd Iesu wrtho, "Pam yr wyt yn fy ngalw i yn dda? Nid oes neb da ond un, sef Duw.

20Gwyddost y gorchmynion: 'Na odineba, na ladd, na ladrata, na chamdystiolaetha, anrhydedda dy dad a'th fam.'"

21Meddai yntau, "Yr wyf wedi cadw'r rhain i gyd o'm hieuenctid."

22Pan glywodd Iesu hyn, dywedodd wrtho, "Un peth sydd ar �l i ti ei wneud: gwerth y cwbl sydd gennyt, a rhanna ef ymhlith y tlodion, a chei drysor yn y nefoedd; a thyrd, canlyn fi."

23Ond pan glywodd ef hyn, aeth yn drist iawn, oherwydd yr oedd yn gyfoethog dros ben.

24Pan welodd Iesu ef wedi trist�u, meddai, "Mor anodd yw hi i'r rhai goludog fynd i mewn i deyrnas Dduw!

25Oherwydd y mae'n haws i gamel fynd i mewn trwy grau nodwydd nag i'r cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw."

26Ac meddai'r gwrandawyr, "Pwy ynteu all gael ei achub?"

27Atebodd yntau, "Y mae'r hyn sy'n amhosibl gyda dynion yn bosibl gyda Duw."

28Yna dywedodd Pedr, "Dyma ni wedi gadael ein heiddo a'th ganlyn di."

29Ond meddai ef wrthynt, "Yn wir, rwy'n dweud wrthych nad oes neb a adawodd du375? neu wraig neu frodyr neu rieni neu blant, er mwyn teyrnas Dduw,

30na chaiff dderbyn yn �l lawer gwaith cymaint yn yr amser hwn, ac yn yr oes sy'n dod fywyd tragwyddol."

31Cymerodd y Deuddeg gydag ef a dweud wrthynt, "Dyma ni'n mynd i fyny i Jerwsalem, a chyflawnir ar Fab y Dyn bob peth sydd wedi ei ysgrifennu trwy'r proffwydi;

32oherwydd caiff ei drosglwyddo i'r Cenhedloedd, a'i watwar a'i gam-drin, a phoeri arno;

33ac wedi ei fflangellu lladdant ef, a'r trydydd dydd fe atgyfoda." Nid oeddent hwy yn deall dim o hyn;

34yr oedd y peth hwn wedi ei guddio rhagddynt, a'i eiriau y tu hwnt i'w hamgyffred.

35Wrth iddo nes�u at Jericho, yr oedd dyn dall yn eistedd ar fin y ffordd yn cardota.

36Pan glywodd y dyrfa yn dod gofynnodd beth oedd hynny,

37a mynegwyd iddo fod Iesu o Nasareth yn mynd heibio.

38Bloeddiodd yntau, "Iesu, Fab Dafydd, trugarha wrthyf."

39Yr oedd y rhai ar y blaen yn ei geryddu ac yn dweud wrtho am dewi; ond yr oedd ef yn gweiddi'n uwch fyth, "Fab Dafydd, trugarha wrthyf."

40Safodd Iesu, a gorchymyn dod ag ef ato. Wedi i'r dyn nes�u gofynnodd Iesu iddo,

41Beth yr wyt ti am i mi ei wneud iti?" Meddai ef, "Syr, mae arnaf eisiau cael fy ngolwg yn �l."

42Dywedodd Iesu wrtho, "Derbyn dy olwg yn �l; dy ffydd sydd wedi dy iach�u di."

43Cafodd ei olwg yn �l ar unwaith, a dechreuodd ei ganlyn ef gan ogoneddu Duw. Ac o weld hyn rhoddodd yr holl bobl foliant i Dduw.

ter>