1Yn y dyddiau hynny aeth gorchymyn allan oddi wrth Cesar Awgwstus i gofrestru'r holl Ymerodraeth.
2Digwyddodd y cofrestru cyntaf hwn pan oedd Cyrenius yn llywodraethu ar Syria.
3Aeth pawb felly i'w gofrestru, pob un i'w dref ei hun.
4Oherwydd ei fod yn perthyn i du375? a theulu Dafydd, aeth Joseff i fyny o dref Nasareth yng Ngalilea i Jwdea, i dref Dafydd a elwir Bethlehem,
5i ymgofrestru ynghyd � Mair ei ddyweddi; ac yr oedd hi'n feichiog.
6Pan oeddent yno, cyflawnwyd yr amser iddi esgor,
7ac esgorodd ar ei mab cyntafanedig; a rhwymodd ef mewn dillad baban a'i osod mewn preseb, am nad oedd lle iddynt yn y gwesty.
8Yn yr un ardal yr oedd bugeiliaid allan yn y wlad yn gwarchod eu praidd liw nos.
9A safodd angel yr Arglwydd yn eu hymyl a disgleiriodd gogoniant yr Arglwydd o'u hamgylch; a daeth arswyd arnynt.
10Yna dywedodd yr angel wrthynt, "Peidiwch ag ofni, oherwydd wele, yr wyf yn cyhoeddi i chwi y newydd da am lawenydd mawr a ddaw i'r holl bobl:
11ganwyd i chwi heddiw yn nhref Dafydd, Waredwr, yr hwn yw'r Meseia, yr Arglwydd;
12a dyma'r arwydd i chwi: cewch hyd i'r un bach wedi ei rwymo mewn dillad baban ac yn gorwedd mewn preseb."
13Yn sydyn ymddangosodd gyda'r angel dyrfa o'r llu nefol, yn moli Duw gan ddweud:
14Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith y rhai sydd wrth ei fodd."
15Wedi i'r angylion fynd ymaith oddi wrthynt i'r nef, dechreuodd y bugeiliaid ddweud wrth ei gilydd, "Gadewch inni fynd i Fethlehem a gweld yr hyn sydd wedi digwydd, y peth yr hysbysodd yr Arglwydd ni amdano."
16Aethant ar frys, a chawsant hyd i Fair a Joseff, a'r baban yn gorwedd yn y preseb;
17ac wedi ei weld mynegasant yr hyn oedd wedi ei lefaru wrthynt am y plentyn hwn.
18Rhyfeddodd pawb a'u clywodd at y pethau a ddywedodd y bugeiliaid wrthynt;
19ond yr oedd Mair yn cadw'r holl bethau hyn yn ddiogel yn ei chalon ac yn myfyrio arnynt.
20Dychwelodd y bugeiliaid gan ogoneddu a moli Duw am yr holl bethau a glywsant ac a welsant, yn union fel y llefarwyd wrthynt.
21Pan ddaeth yr amser i enwaedu arno ymhen wyth diwrnod, galwyd ef Iesu, yr enw a roddwyd iddo gan yr angel cyn i'w fam feichiogi arno.
22Pan ddaeth amser eu puredigaeth yn �l Cyfraith Moses, cymerodd ei rieni ef i fyny i Jerwsalem i'w gyflwyno i'r Arglwydd,
23yn unol �'r hyn sydd wedi ei ysgrifennu yng Nghyfraith yr Arglwydd: "Pob gwryw cyntafanedig, fe'i gelwir yn sanctaidd i'r Arglwydd";
24ac i roi offrwm yn unol �'r hyn sydd wedi ei ddweud yng Nghyfraith yr Arglwydd: "P�r o durturod neu ddau gyw colomen."
25Yn awr yr oedd dyn yn Jerwsalem o'r enw Simeon; dyn cyfiawn a duwiol oedd hwn, yn disgwyl am ddiddanwch Israel; ac yr oedd yr Ysbryd Gl�n arno.
26Yr oedd wedi cael datguddiad gan yr Ysbryd Gl�n na welai farwolaeth cyn gweld Meseia'r Arglwydd.
27Daeth i'r deml dan arweiniad yr Ysbryd; a phan ddaeth y rhieni �'r plentyn Iesu i mewn, i wneud ynglu375?n ag ef yn unol ag arfer y Gyfraith,
28cymerodd Simeon ef i'w freichiau a bendithiodd Dduw gan ddweud:
29Yn awr yr wyt yn gollwng dy was yn rhydd, O Arglwydd, mewn tangnefedd yn unol �'th air;
30oherwydd y mae fy llygaid wedi gweld dy iachawdwriaeth,
31a ddarperaist yng ngu373?ydd yr holl bobloedd:
32goleuni i fod yn ddatguddiad i'r Cenhedloedd ac yn ogoniant i'th bobl Israel."
33Yr oedd ei dad a'i fam yn rhyfeddu at y pethau oedd yn cael eu dweud amdano.
34Yna bendithiodd Simeon hwy, a dywedodd wrth Fair ei fam, "Wele, gosodwyd hwn er cwymp a chyfodiad llawer yn Israel, ac i fod yn arwydd a wrthwynebir;
35a thithau, trywenir dy enaid di gan gleddyf; felly y datguddir meddyliau calonnau lawer."
36Yr oedd proffwydes hefyd, Anna merch Phanuel o lwyth Aser. Yr oedd hon yn oedrannus iawn, wedi byw saith mlynedd gyda'i gu373?r ar �l priodi,
37ac wedi parhau'n weddw nes ei bod yn awr yn bedair a phedwar ugain oed. Ni byddai byth yn ymadael �'r deml, ond yn addoli gan ymprydio a gwedd�o ddydd a nos.
38A'r awr honno safodd hi gerllaw a moli Duw, a llefaru am y plentyn wrth bawb oedd yn disgwyl rhyddhad Jerwsalem.
39Wedi iddynt gyflawni popeth yn unol � Chyfraith yr Arglwydd, dychwelsant i Galilea, i Nasareth eu tref eu hunain.
40Yr oedd y plentyn yn tyfu yn gryf ac yn llawn doethineb; ac yr oedd ffafr Duw arno.
41Byddai ei rieni yn teithio i Jerwsalem bob blwyddyn ar gyfer gu373?yl y Pasg.
42Pan oedd ef yn ddeuddeng mlwydd oed, aethant i fyny yn unol �'r arfer ar yr u373?yl,
43a chadw ei dyddiau yn gyflawn. Ond pan oeddent yn dychwelyd, arhosodd y bachgen Iesu yn Jerwsalem yn ddiarwybod i'w rieni.
44Gan dybio ei fod gyda'u cyd-deithwyr, gwnaethant daith diwrnod cyn dechrau chwilio amdano ymhlith eu perthnasau a'u cydnabod.
45Wedi methu cael hyd iddo, dychwelsant i Jerwsalem gan chwilio amdano.
46Ymhen tridiau daethant o hyd iddo yn y deml, yn eistedd yng nghanol yr athrawon, yn gwrando arnynt ac yn eu holi;
47ac yr oedd pawb a'i clywodd yn rhyfeddu mor ddeallus oedd ei atebion.
48Pan welodd ei rieni ef, fe'u syfrdanwyd, ac meddai ei fam wrtho, "Fy mhlentyn, pam y gwnaethost hyn inni? Dyma dy dad a minnau yn llawn pryder wedi bod yn chwilio amdanat."
49Meddai ef wrthynt, "Pam y buoch yn chwilio amdanaf? Onid oeddech yn gwybod mai yn nhu375? fy Nhad y mae'n rhaid i mi fod?"
50Ond ni ddeallasant hwy y peth a ddywedodd wrthynt.
51Yna aeth ef i lawr gyda hwy yn �l i Nasareth, a bu'n ufudd iddynt. Cadwodd ei fam y cyfan yn ddiogel yn ei chalon.
52Ac yr oedd Iesu yn cynyddu mewn doethineb, a maintioli, a ffafr gyda Duw a'r holl bobl.