1Cododd ei lygaid a gweld pobl gyfoethog yn rhoi eu rhoddion i mewn yng nghist y drysorfa.
2Yna gwelodd wraig weddw dlawd yn rhoi dau ddarn bychan o bres ynddi,
3ac meddai, "Yn wir, rwy'n dweud wrthych fod y weddw dlawd hon wedi rhoi mwy na phawb.
4Oherwydd cyfrannodd y rhain i gyd o'r mwy na digon sydd ganddynt, ond rhoddodd hon o'i phrinder y cwbl oedd ganddi i fyw arno."
5Wrth i rywrai s�n am y deml, ei bod wedi ei haddurno � meini gwych a rhoddion cysegredig, meddai ef,
6Am y pethau hyn yr ydych yn syllu arnynt, fe ddaw dyddiau pryd ni adewir maen ar faen; ni bydd yr un heb ei fwrw i lawr."
7Gofynasant iddo, "Athro, pa bryd y bydd hyn? Beth fydd yr arwydd pan fydd hyn ar ddigwydd?"
8Meddai yntau, "Gwyliwch na chewch eich twyllo. Oherwydd fe ddaw llawer yn fy enw i gan ddweud, 'Myfi yw', ac, 'Y mae'r amser wedi dod yn agos'. Peidiwch � mynd i'w canlyn.
9A phan glywch am ryfeloedd a gwrthryfeloedd, peidiwch � chymryd eich dychrynu. Rhaid i hyn ddigwydd yn gyntaf, ond nid yw'r diwedd i fod ar unwaith."
10Y pryd hwnnw dywedodd wrthynt, "Cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas.
11Bydd daeargrynf�u dirfawr, a newyn a phl�u mewn mannau. Bydd argoelion arswydus ac arwyddion enfawr o'r nef.
12Ond cyn hyn oll byddant yn gosod dwylo arnoch ac yn eich erlid. Fe'ch traddodir i'r synagogau ac i garchar, fe'ch dygir gerbron brenhinoedd a llywodraethwyr o achos fy enw i;
13hyn fydd eich cyfle i dystiolaethu.
14Penderfynwch beidio � phryderu ymlaen llaw ynglu375?n �'ch amddiffyniad;
15fe roddaf fi i chwi huodledd, a doeth-ineb na all eich holl wrthwynebwyr ei wrthsefyll na'i wrth-ddweud.
16Fe'ch bradychir gan eich rhieni a'ch ceraint a'ch perthnasau a'ch cyfeillion, a pharant ladd rhai ohonoch.
17A chas fyddwch gan bawb o achos fy enw i.
18Ond ni chollir yr un blewyn o wallt eich pen.
19Trwy eich dyfalbarhad meddiannwch fywyd i chwi eich hunain.
20Ond pan welwch Jerwsalem wedi ei hamgylchynu gan fyddinoedd, yna byddwch yn gwybod fod awr ei diffeithio wedi dod yn agos.
21Y pryd hwnnw, ffoed y rhai sydd yn Jwdea i'r mynyddoedd. Pob un sydd yng nghanol y ddinas, aed allan ohoni; a phob un sydd yn y wlad, peidied � mynd i mewn iddi.
22Oherwydd dyddiau dial fydd y rhain, pan fydd pob peth sy'n ysgrifenedig yn cael ei gyflawni.
23Gwae'r gwragedd beichiog a'r rhai sy'n rhoi'r fron yn y dyddiau hynny! Daw cyfyngder dirfawr ar y wlad, a digofaint ar y bobl hon.
24Byddant yn cwympo dan fin y cleddyf, ac fe'u dygir yn garcharorion i'r holl genhedloedd. Caiff Jerwsalem ei mathru dan draed y Cenhedloedd nes cyflawni eu hamserau hwy.
25Bydd arwyddion yn yr haul a'r lloer a'r s�r. Ar y ddaear bydd cenhedloedd mewn cyfyngder yn eu pryder rhag trymru ac ymchwydd y m�r.
26Bydd pobl yn llewygu gan ofn wrth ddisgwyl y pethau sy'n dod ar y byd; oherwydd ysgydwir nerthoedd y nefoedd.
27A'r pryd hwnnw gwelant Fab y Dyn yn dyfod mewn cwmwl gyda nerth a gogoniant mawr.
28Pan ddechreua'r pethau hyn ddigwydd, ymunionwch a chodwch eich pennau, oherwydd y mae eich rhyddhad yn agos�u."
29Adroddodd ddameg wrthynt: "Edrychwch ar y ffigysbren a'r holl goed.
30Pan fyddant yn dechrau deilio, fe wyddoch eich hunain o'u gweld fod yr haf bellach yn agos.
31Felly chwithau, pan welwch y pethau hyn yn digwydd, byddwch yn gwybod fod teyrnas Dduw yn agos.
32Yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid �'r genhedlaeth hon heibio nes i'r cwbl ddigwydd.
33Y nef a'r ddaear, �nt heibio, ond fy ngeiriau i, nid �nt heibio ddim.
34Cymerwch ofal, rhag i'ch meddyliau gael eu pylu gan ddiota a meddwi a gofalon bydol, ac i'r dydd hwnnw ddod arnoch yn ddisymwth
35fel magl; oherwydd fe ddaw ar bawb sy'n trigo ar wyneb y ddaear gyfan.
36Byddwch effro bob amser, gan ddeisyf am nerth i ddianc rhag yr holl bethau hyn sydd ar ddigwydd, ac i sefyll yng ngu373?ydd Mab y Dyn."
37Yn ystod y dydd byddai'n dysgu yn y deml, ond byddai'n mynd allan ac yn treulio'r nos ar y mynydd a elwir Olewydd.
38Yn y bore bach deuai'r holl bobl ato yn y deml i wrando arno.