Yr Efengyl yn ôl Luc 7:1-50 BCN1988 - Bible AI

1Wedi iddo orffen llefaru'r holl eiriau hyn wrth y bobl, aeth i mewn i Gapernaum.

2Yr oedd canwriad ac iddo was, gwerthfawr yn ei olwg, a oedd yn glaf ac ar fin marw.

3Pan glywodd y canwriad am Iesu anfonodd ato henuriaid o Iddewon, i ofyn iddo ddod ac achub bywyd ei was.

4Daethant hwy at Iesu ac ymbil yn daer arno: "Y mae'n haeddu iti wneud hyn drosto,

5oherwydd y mae'n caru ein cenedl, ac ef a adeiladodd ein synagog i ni."

6Pan oedd Iesu ar ei ffordd gyda hwy ac eisoes heb fod ymhell o'r tu375?, anfonodd y canwriad rai o'i gyfeillion i ddweud wrtho, "Paid � thrafferthu, syr, oherwydd nid wyf yn deilwng i ti ddod dan fy nho.

7Am hynny bernais nad oeddwn i fy hun yn deilwng i ddod atat; ond dywed air, a chaffed fy ngwas ei iach�u.

8Oherwydd dyn sy'n cael ei osod dan awdurdod wyf finnau, a chennyf filwyr danaf; byddaf yn dweud wrth hwn, 'Dos', ac fe �, ac wrth un arall, 'Tyrd', ac fe ddaw, ac wrth fy ngwas, 'Gwna hyn', ac fe'i gwna."

9Pan glywodd Iesu hyn fe ryfeddodd at y dyn, a chan droi at y dyrfa oedd yn ei ddilyn meddai, "Rwy'n dweud wrthych, ni chefais hyd yn oed yn Israel ffydd mor fawr."

10Ac wedi i'r rhai a anfonwyd ddychwelyd i'r tu375?, cawsant y gwas yn holliach.

11Yn fuan wedyn aeth Iesu i dref a elwir Nain. Gydag ef ar y daith yr oedd ei ddisgyblion a thyrfa fawr.

12Pan gyrhaeddodd yn agos at borth y dref, dyma gynhebrwng yn dod allan; unig fab ei fam oedd y marw, a hithau'n wraig weddw. Yr oedd tyrfa niferus o'r dref gyda hi.

13Pan welodd yr Arglwydd hi, tosturiodd wrthi a dweud, "Paid ag wylo."

14Yna aeth ymlaen a chyffwrdd �'r elor. Safodd y cludwyr, ac meddai ef, "Fy machgen, rwy'n dweud wrthyt, cod."

15Cododd y marw ar ei eistedd a dechrau siarad, a rhoes Iesu ef i'w fam.

16Cydiodd ofn ym mhawb a dech-reusant ogoneddu Duw, gan ddweud, "Y mae proffwyd mawr wedi codi yn ein plith", ac, "Y mae Duw wedi ymweld �'i bobl."

17Ac aeth yr hanes hwn amdano drwy Jwdea gyfan a'r holl gymdogaeth.

18Rhoes disgyblion Ioan adroddiad iddo ynglu375?n � hyn oll.

19Galwodd yntau ddau o'i ddisgyblion ato a'u hanfon at yr Arglwydd, gan ofyn, "Ai ti yw'r hwn sydd i ddod, ai am rywun arall yr ydym i ddisgwyl?"

20Daeth y ddau ato a dweud, "Anfonodd Ioan Fedyddiwr ni atat, gan ofyn, 'Ai ti yw'r hwn sydd i ddod, ai am rywun arall yr ydym i ddisgwyl?'"

21Y pryd hwnnw iachaodd ef lawer o afael afiechydon a phl�u ac ysbrydion drwg, a rhoes eu golwg i lawer o ddeillion.

22Ac atebodd ef hwy, "Ewch a dywedwch wrth Ioan yr hyn yr ydych wedi ei weld ac wedi ei glywed. Y mae'r deillion yn cael eu golwg yn �l, y cloffion yn cerdded, y gwahangleifion yn cael eu glanhau a'r byddariaid yn clywed, y meirw yn codi, y tlodion yn cael clywed y newydd da.

23Gwyn ei fyd y sawl na ddaw cwymp iddo o'm hachos i."

24Wedi i neges-yddion Ioan ymadael, dechreuodd Iesu s�n am Ioan wrth y tyrfaoedd. "Beth yr aethoch allan i'r anialwch i edrych arno? Ai brwynen yn siglo yn y gwynt?

25Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai rhywun wedi ei wisgo mewn dillad esmwyth? Ym mhlasau brenhinoedd y mae gweld dynion moethus mewn gwisgoedd ysblennydd.

26Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai proffwyd? Ie, meddaf wrthych, a mwy na phroffwyd.

27Dyma'r un y mae'n ysgrifenedig amdano: 'Wele fi'n anfon fy nghennad o'th flaen, i baratoi'r ffordd ar dy gyfer.'

28Rwy'n dweud wrthych, nid oes ymhlith meibion gwragedd neb mwy na Ioan; ac eto y mae'r lleiaf yn nheyrnas Dduw yn fwy nag ef."

29(A chydnabod cyfiawnder Duw a wnaeth yr holl bobl a glywodd, a'r casglwyr trethi hefyd, oherwydd yr oeddent wedi derbyn bedydd Ioan;

30ond troi heibio fwriad Duw ar eu cyfer a wnaeth y Phariseaid ac athrawon y Gyfraith, oherwydd yr oeddent hwy wedi gwrthod cael eu bedyddio ganddo.)

31� phwy gan hynny y cymharaf bobl y genhedlaeth hon? I bwy y maent yn debyg?

32Y maent yn debyg i'r plant sy'n eistedd yn y farchnad ac yn galw ar ei gilydd fel hyn: 'Canasom ffliwt i chwi, ac ni ddawnsiasoch; canasom alarnad, ac nid wylasoch.'

33Oherwydd y mae Ioan Fedyddiwr wedi dod, un nad yw'n bwyta bara nac yn yfed gwin, ac yr ydych yn dweud, 'Y mae cythraul ynddo.'

34Y mae Mab y Dyn wedi dod, un sy'n bwyta ac yn yfed, ac yr ydych yn dweud, 'Dyma feddwyn glwth, cyfaill i gasglwyr trethi a phechaduriaid.'

35Ac eto profir gan bawb o'i phlant fod doethineb Duw yn gywir."

36Gwahoddodd un o'r Phariseaid Iesu i bryd o fwyd gydag ef. Aeth ef i du375?'r Pharisead a chymryd ei le wrth y bwrdd.

37A dyma wraig o'r dref oedd yn bechadures yn dod i wybod ei fod wrth bryd bwyd yn nhu375?'r Pharisead. Daeth � ffiol alabastr o ennaint,

38a sefyll y tu �l iddo wrth ei draed gan wylo. Yna dechreuodd wlychu ei draed �'i dagrau a'u sychu � gwallt ei phen; ac yr oedd yn cusanu ei draed ac yn eu hiro �'r ennaint.

39Pan welodd hyn dywedodd y Pharisead oedd wedi ei wahodd wrtho'i hun, "Pe bai hwn yn broffwyd, byddai'n gwybod pwy yw'r wraig sy'n cyffwrdd ag ef, a sut un yw hi. Pechadures yw hi."

40Atebodd Iesu ef, "Simon, y mae gennyf rywbeth i'w ddweud wrthyt." Meddai yntau, "Dywed, Athro."

41Yr oedd gan fenthyciwr arian ddau ddyledwr," meddai Iesu. "Pum cant o ddarnau arian oedd dyled un, a hanner cant oedd ar y llall.

42Gan nad oeddent yn gallu talu'n �l, diddymodd y benthyciwr eu dyled i'r ddau. Prun ohonynt, gan hynny, fydd yn ei garu fwyaf?"

43Atebodd Simon, "Fe dybiwn i mai'r un y diddymwyd y ddyled fwyaf iddo." "Bernaist yn gywir," meddai ef wrtho.

44A chan droi at y wraig, meddai wrth Simon, "A weli di'r wraig hon? Deuthum i mewn i'th du375?, ac ni roddaist ddu373?r imi at fy nhraed; ond hon, gwlychodd hi fy nhraed �'i dagrau a'u sychu �'i gwallt.

45Ni roddaist gusan imi; ond nid yw hon wedi peidio � chusanu fy nhraed byth er pan ddeuthum i mewn.

46Nid iraist fy mhen ag olew; ond irodd hon fy nhraed ag ennaint.

47Am hynny rwy'n dweud wrthyt, y mae ei phechodau, er cynifer ydynt, wedi eu maddau; oherwydd y mae ei chariad yn fawr. Os mai ychydig a faddeuwyd i rywun, ychydig yw ei gariad."

48Ac wrth y wraig meddai, "Y mae dy bechodau wedi eu maddau."

49Yna dechreuodd y gwesteion eraill ddweud wrthynt eu hunain, "Pwy yw hwn sydd hyd yn oed yn maddau pechodau?"

50Ac meddai ef wrth y wraig, "Y mae dy ffydd wedi dy achub di; dos mewn tangnefedd."

er>