Yr Efengyl yn ôl Marc 10:1-52 BCN1988 - Bible AI

1Cychwynnodd oddi yno a daeth i diriogaeth Jwdea a'r tu hwnt i'r Iorddonen. Daeth tyrfaoedd ynghyd ato drachefn, a thrachefn yn �l ei arfer dechreuodd eu dysgu.

2A daeth Phariseaid ato a gofyn iddo a oedd yn gyfreithlon i u373?r ysgaru ei wraig; rhoi prawf arno yr oeddent.

3Atebodd yntau hwy gan ofyn, "Beth a orchmynnodd Moses i chwi?"

4Dywedasant hwythau, "Rhoddodd Moses ganiat�d i ysgrifennu llythyr ysgar a'i hanfon ymaith."

5Ond meddai Iesu wrthynt, "Oherwydd eich ystyfnigrwydd yr ysgrifennodd ef y gorchymyn hwn ichwi.

6Ond o ddechreuad y greadigaeth, yn wryw a benyw y gwnaeth Duw hwy.

7Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn glynu wrth ei wraig,

8a bydd y ddau yn un cnawd. Gan hynny nid dau mohonynt mwyach, ond un cnawd.

9Felly, yr hyn a gysylltodd Duw, peidied neb ei wahanu."

10Wedi mynd yn �l i'r tu375?, holodd ei ddisgyblion ef ynghylch hyn.

11Ac meddai wrthynt, "Pwy bynnag sy'n ysgaru ei wraig ac yn priodi un arall, y mae'n godinebu yn ei herbyn hi;

12ac os bydd iddi hithau ysgaru ei gu373?r a phriodi un arall, y mae hi'n godinebu."

13Yr oeddent yn dod � phlant ato, iddo gyffwrdd � hwy. Ceryddodd y disgyblion hwy,

14ond pan welodd Iesu hyn aeth yn ddig, a dywedodd wrthynt, "Gadewch i'r plant ddod ataf fi; peidiwch �'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas Dduw yn perthyn.

15Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag nad yw'n derbyn teyrnas Dduw yn null plentyn, nid � byth i mewn iddi."

16A chymerodd hwy yn ei freichiau a'u bendithio, gan roi ei ddwylo arnynt.

17Wrth iddo fynd i'w daith, rhedodd rhyw ddyn ato a phenlinio o'i flaen a gofyn iddo, "Athro da, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?"

18A dywedodd Iesu wrtho, "Pam yr wyt yn fy ngalw i yn dda? Nid oes neb da ond un, sef Duw.

19Gwyddost y gorchmynion: 'Na ladd, na odineba, na ladrata, na chamdystiolaetha, na chamgolleda, anrhydedda dy dad a'th fam.'"

20Meddai yntau wrtho, "Athro, yr wyf wedi cadw'r rhain i gyd o'm hieuenctid."

21Edrychodd Iesu arno ac fe'i hoffodd, a dywedodd wrtho, "Un peth sy'n eisiau ynot; dos, gwerth y cwbl sydd gennyt a dyro i'r tlodion, a chei drysor yn y nef; a thyrd, canlyn fi."

22Cymylodd ei wedd ar y gair, ac aeth ymaith yn drist, oherwydd yr oedd yn berchen meddiannau lawer.

23Edrychodd Iesu o'i gwmpas ac meddai wrth ei ddisgyblion, "Mor anodd fydd hi i rai cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw!"

24Syfrdanwyd y disgyblion gan ei eiriau, ond meddai Iesu wrthynt drachefn, "Blant, mor anodd yw mynd i mewn i deyrnas Dduw!

25Y mae'n haws i gamel fynd trwy grau nodwydd nag i rywun cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw."

26Synasant yn fwy byth, ac meddent wrth ei gilydd, "Pwy ynteu all gael ei achub?"

27Edrychodd Iesu arnynt a dywedodd, "Gyda dynion y mae'n amhosibl, ond nid gyda Duw. Y mae pob peth yn bosibl gyda Duw."

28Dechreuodd Pedr ddweud wrtho, "Dyma ni wedi gadael pob peth ac wedi dy ganlyn di."

29Meddai Iesu, "Yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid oes neb a adawodd du375? neu frodyr neu chwiorydd neu fam neu dad neu blant neu diroedd er fy mwyn i ac er mwyn yr Efengyl,

30na chaiff dderbyn ganwaith cymaint yn awr yn yr amser hwn, yn dai a brodyr a chwiorydd a mamau a phlant a thiroedd, ynghyd ag erledigaethau, ac yn yr oes sy'n dod fywyd tragwyddol.

31Ond bydd llawer sy'n flaenaf yn olaf, a'r rhai olaf yn flaenaf."

32Yr oeddent ar y ffordd yn mynd i fyny i Jerwsalem, ac Iesu'n mynd o'u blaen. Yr oedd arswyd arnynt, ac ofn ar y rhai oedd yn canlyn. Cymerodd y Deuddeg ato drachefn a dechreuodd s�n wrthynt am yr hyn oedd i ddigwydd iddo:

33Dyma ni'n mynd i fyny i Jerwsalem; fe gaiff Mab y Dyn ei draddodi i'r prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion; condemniant ef i farwolaeth, a'i drosglwyddo i'r Cenhedloedd;

34a gwatwarant ef, a phoeri arno a'i fflangellu a'i ladd, ac wedi tridiau fe atgyfoda."

35Daeth Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, ato a dweud wrtho, "Athro, yr ydym am iti wneud i ni y peth a ofynnwn gennyt."

36Meddai yntau wrthynt, "Beth yr ydych am imi ei wneud i chwi?"

37A dywedasant wrtho, "Dyro i ni gael eistedd, un ar dy law dde ac un ar dy law chwith yn dy ogoniant."

38Ac meddai Iesu wrthynt, "Ni wyddoch beth yr ydych yn ei ofyn. A allwch chwi yfed y cwpan yr wyf fi yn ei yfed, neu gael eich bedyddio �'r bedydd y bedyddir fi ag ef?"

39Dywedasant hwythau wrtho, "Gallwn." Ac meddai Iesu wrthynt, "Cewch yfed y cwpan yr wyf fi yn ei yfed, a bedyddir chwi �'r bedydd y bedyddir fi ag ef,

40ond eistedd ar fy llaw dde neu ar fy llaw chwith, nid gennyf fi y mae'r hawl i'w roi; y mae'n perthyn i'r rhai y mae wedi ei ddarparu ar eu cyfer."

41Pan glywodd y deg, aethant yn ddig wrth Iago ac Ioan.

42Galwodd Iesu hwy ato ac meddai wrthynt, " Gwyddoch fod y rhai a ystyrir yn llywodraethwyr ar y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a'u gwu375?r mawr hwy yn dangos eu hawdurdod drostynt.

43Ond nid felly y mae yn eich plith chwi; yn hytrach, pwy bynnag sydd am fod yn fawr yn eich plith, rhaid iddo fod yn was i chwi,

44a phwy bynnag sydd am fod yn flaenaf yn eich plith, rhaid iddo fod yn gaethwas i bawb.

45Oherwydd Mab y Dyn, yntau, ni ddaeth i gael ei wasanaethu ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer."

46Daethant i Jericho. Ac fel yr oedd yn mynd allan o Jericho gyda'i ddisgyblion a chryn dyrfa, yr oedd mab Timeus, Bartimeus, cardotyn dall, yn eistedd ar fin y ffordd.

47A phan glywodd mai Iesu o Nasareth ydoedd, dechreuodd weiddi a dweud, "Iesu, Fab Dafydd, trugarha wrthyf."

48Ac yr oedd llawer yn ei geryddu ac yn dweud wrtho am dewi; ond yr oedd yntau'n gweiddi'n uwch fyth, "Fab Dafydd, trugarha wrthyf."

49Safodd Iesu, a dywedodd, "Galwch arno." A dyma hwy'n galw ar y dyn dall ac yn dweud wrtho, "Cod dy galon a saf ar dy draed; y mae'n galw arnat."

50Taflodd yntau ei fantell oddi arno, llamu ar ei draed a dod at Iesu.

51Cyfarchodd Iesu ef a dweud, "Beth yr wyt ti am i mi ei wneud iti?" Ac meddai'r dyn dall wrtho, "Rabbwni, y mae arnaf eisiau cael fy ngolwg yn �l."

52Dywedodd Iesu wrtho, "Dos, y mae dy ffydd wedi dy iach�u di." A chafodd ei olwg yn �l yn y fan, a dechreuodd ei ganlyn ef ar hyd y ffordd.

oter>