Yr Efengyl yn ôl Marc 13:1-37 BCN1988 - Bible AI

1Wrth iddo fynd allan o'r deml, dyma un o'i ddisgyblion yn dweud wrtho, "Edrych, Athro, y fath feini enfawr a'r fath adeiladau gwych!"

2A dywedodd Iesu wrtho, "A weli di'r adeiladau mawr yma? Ni adewir yma faen ar faen; ni bydd yr un heb ei fwrw i lawr."

3Fel yr oedd yn eistedd ar Fynydd yr Olewydd gyferbyn �'r deml, gofynnodd Pedr ac Iago ac Ioan ac Andreas iddo, o'r neilltu,

4Dywed wrthym pa bryd y bydd hyn, a beth fydd yr arwydd pan fydd hyn oll ar ddod i ben?"

5A dechreuodd Iesu ddweud wrthynt, "Gwyliwch na fydd i neb eich twyllo.

6Fe ddaw llawer yn fy enw i gan ddweud, 'Myfi yw', ac fe dwyllant lawer.

7A phan glywch am ryfeloedd a s�n am ryfeloedd, peidiwch � chyffroi. Rhaid i hyn ddigwydd, ond nid yw'r diwedd eto.

8Oblegid cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas. Bydd daeargrynf�u mewn mannau. Bydd adegau o newyn.

9Dechrau'r gwewyr fydd hyn. A chwithau, gwyliwch eich hunain; fe'ch traddodir chwi i lysoedd, a chewch eich fflangellu mewn synagogau a'ch gosod i sefyll gerbron llywodraethwyr a brenhinoedd o'm hachos i, i ddwyn tystiolaeth yn eu gu373?ydd.

10Ond yn gyntaf rhaid i'r Efengyl gael ei chyhoeddi i'r holl genhedloedd.

11A phan �nt � chwi i'ch traddodi, peidiwch � phryderu ymlaen llaw beth i'w ddweud, ond pa beth bynnag a roddir i chwi y pryd hwnnw, dywedwch hynny; oblegid nid chwi sydd yn llefaru, ond yr Ysbryd Gl�n.

12Bradycha brawd ei frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn, a chyfyd plant yn erbyn eu rhieni a pheri eu lladd.

13A chas fyddwch gan bawb o achos fy enw i; ond y sawl sy'n dyfalbarhau i'r diwedd a gaiff ei achub.

14Ond pan welwch 'y ffieiddbeth diffeithiol' yn sefyll lle na ddylai fod" (dealled y darllenydd) "yna ffoed y rhai sydd yn Jwdea i'r mynyddoedd.

15Pwy bynnag sydd ar ben y tu375?, peidied � dod i lawr i fynd i mewn i gipio dim o'i du375?;

16a phwy bynnag sydd yn y cae, peidied � throi yn ei �l i gymryd ei fantell.

17Gwae'r gwragedd beichiog a'r rhai sy'n rhoi'r fron yn y dyddiau hynny!

18A gwedd�wch na ddigwydd hyn yn y gaeaf,

19oblegid bydd y dyddiau hynny yn orthrymder na fu ei debyg o ddechrau'r greadigaeth a greodd Duw hyd yn awr, ac na fydd byth.

20Ac oni bai fod yr Arglwydd wedi byrhau'r dyddiau, ni fuasai neb byw wedi ei achub; ond er mwyn yr etholedigion a etholodd, fe fyrhaodd y dyddiau.

21Ac yna, os dywed rhywun wrthych, 'Edrych, dyma'r Meseia', neu, 'Edrych, dacw ef', peidiwch �'i gredu.

22Oherwydd fe gyfyd gau feseiau a gau broffwydi, a rhoddant arwyddion a rhyfeddodau i arwain ar gyfeiliorn yr etholedigion, petai hynny'n bosibl.

23Ond gwyliwch chwi; yr wyf wedi dweud y cwbl wrthych ymlaen llaw.

24Ond yn y dyddiau hynny, ar �l y gorthrymder hwnnw, 'Tywyllir yr haul, ni rydd y lloer ei llewyrch,

25syrth y s�r o'r nef, ac ysgydwir y nerthoedd sydd yn y nefoedd.'

26A'r pryd hwnnw gwelant Fab y Dyn yn dyfod yn y cymylau gyda nerth mawr a gogoniant.

27Ac yna'r anfona ei angylion a chynnull ei etholedigion o'r pedwar gwynt, o eithaf y ddaear hyd at eithaf y nef.

28Dysgwch wers oddi wrth y ffigysbren. Pan fydd ei gangen yn ir ac yn dechrau deilio, gwyddoch fod yr haf yn agos.

29Felly chwithau, pan welwch y pethau hyn yn digwydd, byddwch yn gwybod ei fod yn agos, wrth y drws.

30Yn wir, rwy'n dweud wrthych, nid �'r genhedlaeth hon heibio nes i'r holl bethau hyn ddigwydd.

31Y nef a'r ddaear, �nt heibio, ond fy ngeiriau i, nid �nt heibio ddim.

32Ond am y dydd hwnnw neu'r awr ni u373?yr neb, na'r angylion yn y nef, na'r Mab, neb ond y Tad.

33Gwyliwch, byddwch effro; oherwydd ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser.

34Y mae fel dyn a aeth oddi cartref, gan adael ei du375? a rhoi awdurdod i'w weision, i bob un ei waith, a gorchymyn i'r porthor wylio.

35Byddwch wyliadwrus gan hynny � oherwydd ni wyddoch pa bryd y daw meistr y tu375?, ai gyda'r hwyr, ai ar hanner nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai yn fore �

36rhag ofn iddo ddod yn ddisymwth a'ch cael chwi'n cysgu.

37A'r hyn yr wyf yn ei ddweud wrthych chwi, yr wyf yn ei ddweud wrth bawb: byddwch wyliadwrus."

oter>