Yr Efengyl yn ôl Marc 15:1-47 BCN1988 - Bible AI

1Cyn gynted ag y daeth hi'n ddydd, ymgynghorodd y prif offeiriaid �'r henuriaid a'r ysgrifenyddion a'r holl Sanhedrin; yna rhwymasant Iesu a mynd ag ef ymaith a'i drosglwyddo i Pilat.

2Holodd Pilat ef: "Ai ti yw Brenin yr Iddewon?" Atebodd yntau ef: "Ti sy'n dweud hynny."

3Ac yr oedd y prif offeiriaid yn dwyn llawer o gyhuddiadau yn ei erbyn.

4Holodd Pilat ef wedyn: "Onid atebi ddim? Edrych faint o gyhuddiadau y maent yn eu dwyn yn dy erbyn."

5Ond nid atebodd Iesu ddim mwy, er syndod i Pilat.

6Ar yr u373?yl yr oedd Pilat yn arfer rhyddhau iddynt un carcharor y gofynnent amdano.

7Ac yr oedd y dyn a elwid Barabbas yn y carchar gyda'r gwrthryfelwyr hynny oedd wedi llofruddio yn ystod y gwrthryfel.

8Daeth y dyrfa i fyny a dechrau gofyn i Pilat wneud yn �l ei arfer iddynt.

9Atebodd Pilat hwy: "A fynnwch i mi ryddhau i chwi Frenin yr Iddewon?"

10Oherwydd gwyddai mai o genfigen yr oedd y prif offeiriaid wedi ei draddodi ef.

11Ond cyffr�dd y prif offeiriaid y dyrfa i geisio ganddo yn hytrach ryddhau Barabbas iddynt.

12Atebodd Pilat drachefn, ac meddai wrthynt, "Beth, ynteu, a wnaf � hwn yr ydych yn ei alw yn Frenin yr Iddewon?"

13Gwaeddasant hwythau yn �l, "Croeshoelia ef."

14Meddai Pilat wrthynt, "Ond pa ddrwg a wnaeth ef?" Gwaeddasant hwythau yn uwch byth, "Croeshoelia ef."

15A chan ei fod yn awyddus i fodloni'r dyrfa, rhyddhaodd Pilat Barabbas iddynt, a thraddododd Iesu, ar �l ei fflangellu, i'w groeshoelio.

16Aeth y milwyr ag ef ymaith i mewn i'r cyntedd, hynny yw, i'r Praetoriwm, a galw ynghyd yr holl fintai.

17A gwisgasant ef � phorffor, a phlethu coron ddrain a'i gosod am ei ben.

18A dechreusant ei gyfarch: "Henffych well, Frenin yr Iddewon!"

19Curasant ei ben � gwialen, a phoeri arno, a phlygu eu gliniau ac ymgrymu iddo.

20Ac wedi iddynt ei watwar, tynasant y porffor oddi amdano a'i wisgo ef �'i ddillad ei hun. Yna aethant ag ef allan i'w groeshoelio.

21Gorfodasant un oedd yn mynd heibio ar ei ffordd o'r wlad, Simon o Cyrene, tad Alexander a Rwffus, i gario ei groes ef.

22Daethant ag ef i'r lle a elwir Golgotha, hynny yw, o'i gyfieithu, "Lle Penglog."

23Cynigiasant iddo win � myrr ynddo, ond ni chymerodd ef.

24A chroeshoeliasant ef, a rhanasant ei ddillad, gan fwrw coelbren arnynt i benderfynu beth a g�i pob un.

25Naw o'r gloch y bore oedd hi pan groeshoeliasant ef.

26Ac yr oedd arysgrif y cyhuddiad yn ei erbyn yn dweud: "Brenin yr Iddewon."

27A chydag ef croeshoeliasant ddau leidr, un ar y dde ac un ar y chwith iddo.

28[{cf15i A chyflawnwyd yr Ysgrythur sy'n dweud, "A chyfrifwyd ef gyda'r troseddwyr."}]

29Yr oedd y rhai oedd yn mynd heibio yn ei gablu ef, gan ysgwyd eu pennau a dweud, "Oho, ti sydd am fwrw'r deml i lawr a'i hadeiladu mewn tridiau,

30disgyn oddi ar y groes ac achub dy hun."

31A'r un modd yr oedd y prif offeiriaid hefyd, ynghyd �'r ysgrifenyddion, yn ei watwar wrth ei gilydd, ac yn dweud, "Fe achubodd eraill; ni all ei achub ei hun.

32Disgynned y Meseia, Brenin Israel, yn awr oddi ar y groes, er mwyn inni weld a chredu." Yr oedd hyd yn oed y rhai a groeshoeliwyd gydag ef yn ei wawdio.

33A phan ddaeth yn hanner dydd, bu tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o'r gloch y prynhawn.

34Ac am dri o'r gloch gwaeddodd Iesu � llef uchel, "Elo�, Elo�, lema sabachthani", hynny yw, o'i gyfieithu, "Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?"

35O glywed hyn, meddai rhai o'r sawl oedd yn sefyll gerllaw, "Clywch, y mae'n galw ar Elias."

36Rhedodd rhywun a llenwi ysbwng � gwin sur a'i ddodi ar flaen gwialen a'i gynnig iddo i'w yfed. "Gadewch inni weld," meddai, "a ddaw Elias i'w dynnu ef i lawr."

37Ond rhoes Iesu lef uchel, a bu farw.

38A rhwygwyd llen y deml yn ddwy o'r pen i'r gwaelod.

39Pan welodd y canwriad, a oedd yn sefyll gyferbyn ag ef, mai gyda gwaedd felly y bu farw, dywedodd, "Yn wir, Mab Duw oedd y dyn hwn."

40Yr oedd gwragedd hefyd yn edrych o hirbell; yn eu plith yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago Fychan a Joses, a Salome,

41gwragedd a fu'n ei ganlyn ac yn gweini arno pan oedd yng Ngalilea, a llawer o wragedd eraill oedd wedi dod i fyny gydag ef i Jerwsalem.

42Yr oedd hi eisoes yn hwyr, a chan ei bod yn ddydd Paratoad, hynny yw, y dydd cyn y Saboth,

43daeth Joseff o Arimathea, cynghorwr uchel ei barch a oedd yntau'n disgwyl am deyrnas Dduw, a mentrodd fynd i mewn at Pilat a gofyn am gorff Iesu.

44Rhyfeddodd Pilat ei fod eisoes wedi marw, a galwodd y canwriad ato a gofyn iddo a oedd wedi marw ers meitin.

45Ac wedi cael gwybod gan y canwriad, rhoddodd y corff i Joseff.

46Prynodd yntau liain, ac wedi ei dynnu ef i lawr, a'i amd�i yn y lliain, gosododd ef mewn bedd oedd wedi ei naddu o'r graig; a threiglodd faen ar ddrws y bedd.

47Ac yr oedd Mair Magdalen a Mair mam Joses yn edrych ym mhle y gosodwyd ef.

oter>