1Wedi galw ato ei ddeuddeg disgybl rhoddodd Iesu iddynt awdurdod dros ysbrydion aflan, i'w bwrw allan, ac i iach�u pob afiechyd a phob llesgedd.
2A dyma enwau'r deuddeg apostol: yn gyntaf Simon, a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd, ac Iago fab Sebedeus, ac Ioan ei frawd,
3Philip a Bartholomeus, Thomas a Mathew'r casglwr trethi, Iago fab Alffeus, a Thadeus,
4Simon y Selot, a Jwdas Iscariot, yr un a'i bradychodd ef.
5Y deuddeg hyn a anfonodd Iesu allan wedi rhoi'r gorchmynion yma iddynt: "Peidiwch � mynd i gyfeiriad y Cenhedloedd, a pheidiwch � mynd i mewn i un o drefi'r Samariaid.
6Ewch yn hytrach at ddefaid colledig tu375? Israel.
7Ac wrth fynd cyhoeddwch y genadwri: 'Y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos.'
8Iachewch y cleifion, cyfodwch y meirw, glanhewch y gwahanglwyfus, bwriwch allan gythreuliaid; derbyniasoch heb d�l, rhowch heb d�l.
9Peidiwch � chymryd aur nac arian na phres yn eich gwregys,
10na chod i'r daith nac ail grys na sandalau na ffon. Y mae'r gweithiwr yn haeddu ei fwyd.
11I ba dref neu bentref bynnag yr ewch, holwch pwy sy'n deilwng yno, ac arhoswch yno hyd nes y byddwch yn ymadael �'r ardal.
12A phan fyddwch yn mynd i mewn i du375?, cyfarchwch y tu375?.
13Ac os bydd y tu375? yn deilwng, doed eich tangnefedd arno. Ond os na fydd y tu375? yn deilwng, dychweled eich tangnefedd atoch.
14Ac os bydd rhywun yn gwrthod eich derbyn a gwrthod gwrando ar eich geiriau, ewch allan o'r tu375? hwnnw neu'r dref honno ac ysgydwch y llwch oddi ar eich traed.
15Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych y caiff tir Sodom a Gomorra lai i'w ddioddef yn Nydd y Farn na'r dref honno.
16Dyma fi yn eich anfon allan fel defaid i blith bleiddiaid; felly byddwch yn gall fel seirff ac yn ddiniwed fel colomennod.
17Gochelwch rhag pobl; oherwydd fe'ch traddodant chwi i lysoedd, ac fe'ch fflangellant yn eu synagogau.
18Cewch eich dwyn o flaen llywodraethwyr a brenhinoedd o'm hachos i, i ddwyn tystiolaeth iddynt ac i'r Cenhedloedd.
19Pan draddodant chwi, peidiwch � phryderu pa fodd na pha beth i lefaru, oherwydd fe roddir i chwi y pryd hwnnw eiriau i'w llefaru.
20Nid chwi sydd yn llefaru, ond Ysbryd eich Tad sy'n llefaru ynoch chwi.
21Bradycha brawd ei frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn, a chyfyd plant yn erbyn eu rhieni a pheri eu lladd.
22A chas fyddwch gan bawb o achos fy enw i; ond y sawl sy'n dyfalbarhau i'r diwedd a gaiff ei achub.
23Pan erlidiant chwi mewn un dref, ffowch i un arall. Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, ni fyddwch wedi cwblhau trefi Israel cyn dyfod Mab y Dyn.
24Nid yw disgybl yn well na'i athro na gwas yn well na'i feistr.
25Digon i'r disgybl yw bod fel ei athro, a'r gwas fel ei feistr. Os galwasant feistr y tu375? yn Beelsebwl, pa faint mwy ei deulu?
26Peidiwch �'u hofni hwy. Oherwydd nid oes dim wedi ei guddio na ddatguddir, na dim yn guddiedig na cheir ei wybod.
27Yr hyn a ddywedaf wrthych yn y tywyllwch, dywedwch ef yng ngolau dydd; a'r hyn a sibrydir i'ch clust, cyhoeddwch ef ar bennau'r tai.
28A pheidiwch ag ofni'r rhai sy'n lladd y corff, ond na allant ladd yr enaid; ofnwch yn hytrach yr hwn sy'n gallu dinistrio'r enaid a'r corff yn uffern.
29Oni werthir dau aderyn y to am geiniog? Eto nid oes un ohonynt yn syrthio i'r ddaear heb eich Tad.
30Amdanoch chwi, y mae hyd yn oed pob blewyn o wallt eich pen wedi ei rifo.
31Peidiwch ag ofni felly; yr ydych chwi'n werth mwy na llawer o adar y to.
32Pob un fydd yn fy arddel i gerbron eraill, byddaf finnau hefyd yn eu harddel hwy gerbron fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd.
33Ond pwy bynnag fydd yn fy ngwadu i gerbron eraill, byddaf finnau hefyd yn eu gwadu hwy gerbron fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd.
34Peidiwch � meddwl mai i ddwyn heddwch i'r ddaear y deuthum; nid i ddwyn heddwch y deuthum ond cleddyf.
35Oherwydd deuthum i rannu 'dyn yn erbyn ei dad, a merch yn erbyn ei mam, a merch-yng-nghyfraith yn erbyn ei mam-yng-nghyfraith;
36a gelynion rhywun fydd ei deulu ei hun'.
37Nid yw'r sawl sy'n caru tad neu fam yn fwy na myfi yn deilwng ohonof fi; ac nid yw'r sawl sy'n caru mab neu ferch yn fwy na myfi yn deilwng ohonof fi.
38A'r sawl nad yw'n cymryd ei groes ac yn canlyn ar fy �l i, nid yw'n deilwng ohonof fi.
39Yr un sy'n ennill ei fywyd a'i cyll, a'r un sy'n colli ei fywyd er fy mwyn i a'i hennill.
40Y mae'r sawl sy'n eich derbyn chwi yn fy nerbyn i, a'r sawl sy'n fy nerbyn i yn derbyn yr hwn a'm hanfonodd i.
41Pwy bynnag sy'n derbyn proffwyd am ei fod yn broffwyd, fe gaiff wobr proffwyd, a phwy bynnag sy'n derbyn un cyfiawn am ei fod yn un cyfiawn, fe gaiff wobr un cyfiawn.
42A phwy bynnag a rydd gymaint � chwpanaid o ddu373?r oer i un o'r rhai bychain hyn am ei fod yn ddisgybl, yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, ni chyll ei wobr."