Yr Efengyl yn ôl Mathew 11:1-30 BCN1988 - Bible AI

1Pan orffennodd Iesu ddysgu ei ddeuddeg disgybl, symudodd oddi yno er mwyn dysgu a phregethu yn eu trefi hwy.

2Pan glywodd Ioan yn y carchar am weithredoedd Crist, anfonodd trwy ei ddisgyblion

3a gofyn iddo, "Ai ti yw'r hwn sydd i ddod, ai am rywun arall yr ydym i ddisgwyl?"

4Ac atebodd Iesu hwy, "Ewch a dywedwch wrth Ioan yr hyn yr ydych yn ei glywed ac yn ei weld.

5Y mae'r deillion yn cael eu golwg yn �l, y cloffion yn cerdded, y gwahangleifion yn cael eu glanhau a'r byddariaid yn clywed, y meirw yn codi, y tlodion yn cael clywed y newydd da.

6Gwyn ei fyd y sawl na fydd yn cwympo o'm hachos i."

7Wrth i ddisgyblion Ioan fynd ymaith, dechreuodd Iesu s�n am Ioan wrth y tyrfaoedd. "Beth yr aethoch allan i'r anialwch i edrych arno? Ai brwynen yn siglo yn y gwynt?

8Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai un wedi ei wisgo mewn dillad esmwyth? Yn nhai brenhinoedd y mae'r rhai sy'n gwisgo dillad esmwyth.

9Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai proffwyd? Ie, meddaf wrthych, a mwy na phroffwyd.

10Dyma'r un y mae'n ysgrifenedig amdano: 'Wele fi'n anfon fy nghennad o'th flaen, i baratoi'r ffordd ar dy gyfer.'

11Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, ni chododd ymhlith meibion gwragedd neb mwy na Ioan Fedyddiwr; ac eto y mae'r lleiaf yn nheyrnas nefoedd yn fwy nag ef.

12O ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr y mae teyrnas nefoedd yn cael ei threisio, a threiswyr sy'n ei chipio hi.

13Hyd at Ioan y proffwydodd yr holl broffwydi a'r Gyfraith;

14ac os mynnwch dderbyn hynny, ef yw Elias sydd ar ddod.

15Y sawl sydd � chlustiau ganddo, gwrandawed.

16� phwy y cymharaf y genhedlaeth hon? Y mae'n debyg i blant yn eistedd yn y marchnadoedd ac yn galw ar ei gilydd:

17'Canasom ffliwt i chwi,ac ni ddawnsiasoch; canasom alarnad, ac nid wylasoch.'

18Oherwydd daeth Ioan, un nad yw'n bwyta nac yn yfed, ac y maent yn dweud, 'Y mae cythraul ynddo.'

19Daeth Mab y Dyn, un sy'n bwyta ac yn yfed, ac y maent yn dweud, 'Dyma feddwyn glwth, cyfaill i gasglwyr trethi a phechaduriaid.' Ac eto profir gan ei gweithredoedd fod doethineb Duw yn iawn."

20Yna dechreuodd geryddu'r trefi lle y gwnaed y rhan fwyaf o'i wyrthiau, am nad oeddent wedi edifarhau.

21Gwae di, Chorasin! Gwae di, Bethsaida! Oherwydd petai'r gwyrthiau a wnaed ynoch chwi wedi eu gwneud yn Tyrus a Sidon, buasent wedi edifarhau erstalwm mewn sachliain a lludw.

22Ond 'rwy'n dweud wrthych, caiff Tyrus a Sidon lai i'w ddioddef yn Nydd y Farn na chwi.

23A thithau, Capernaum, 'A ddyrchefir di hyd nef? Byddi'n disgyn hyd Hades.' Oherwydd petai'r gwyrthiau a wnaed ynot ti wedi eu gwneud yn Sodom, buasai'n sefyll hyd heddiw.

24Ond 'rwy'n dweud wrthych y caiff tir Sodom lai i'w ddioddef yn Nydd y Farn na thi."

25Yr amser hwnnw dywedodd Iesu, "Yr wyf yn dy foliannu di, O Dad, Arglwydd nef a daear, am iti guddio'r pethau hyn rhag y doethion a'r deallusion, a'u datguddio i rai bychain;

26ie, O Dad, oherwydd felly y rhyngodd dy fodd di.

27Traddodwyd i mi bob peth gan fy Nhad. Nid oes neb yn adnabod y Mab, ond y Tad, ac nid oes neb yn adnabod y Tad, ond y Mab a'r rhai hynny y mae'r Mab yn dewis ei ddatguddio iddynt.

28Dewch ataf fi, bawb sy'n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi.

29Cymerwch fy iau arnoch a dysgwch gennyf, oherwydd addfwyn ydwyf a gostyngedig o galon, ac fe gewch orffwystra i'ch eneidiau.

30Y mae fy iau i yn hawdd ei dwyn, a'm baich i yn ysgafn."

footer>