1Yr amser hwnnw clywodd Herod y tetrarch y s�n am Iesu,
2a dywedodd wrth ei weision, "Ioan Fedyddiwr yw hwn; y mae ef wedi ei godi oddi wrth y meirw, a dyna pam y mae'r gweithredoedd nerthol ar waith ynddo ef."
3Oherwydd yr oedd Herod wedi dal Ioan a'i roi yn rhwym yng ngharchar o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd.
4Yr oedd Ioan wedi dweud wrtho, "Nid yw'n gyfreithlon i ti ei chael hi."
5Ac er bod Herod yn dymuno ei ladd, yr oedd arno ofn y bobl, am eu bod yn ystyried Ioan yn broffwyd.
6Pan oedd Herod yn dathlu ei ben-blwydd, dawnsiodd merch Herodias gerbron y cwmni a phlesio Herod
7gymaint nes iddo addo ar ei lw roi iddi beth bynnag a ofynnai.
8Ar gyfarwyddyd ei mam, dywedodd hi, "Rho i mi, yma ar ddysgl, ben Ioan Fedyddiwr."
9Aeth y brenin yn drist, ond oherwydd ei lw ac oherwydd ei westeion gorchmynnodd ei roi iddi,
10ac anfonodd i dorri pen Ioan yn y carchar.
11Daethpwyd �'i ben ef ar ddysgl a'i roi i'r eneth, ac aeth hi ag ef i'w mam.
12Yna daeth ei ddisgyblion a mynd �'r corff ymaith a'i gladdu, ac aethant ac adrodd yr hanes wrth Iesu.
13Pan glywodd Iesu, aeth oddi yno mewn cwch i le unig o'r neilltu. Ond clywodd y tyrfaoedd, a dilynasant ef dros y tir o'r trefi.
14Pan laniodd Iesu, gwelodd dyrfa fawr, a thosturiodd wrthynt ac iach�u eu cleifion hwy.
15Fel yr oedd yn nosi daeth ei ddisgyblion ato a dweud, "Y mae'r lle yma'n unig ac y mae hi eisoes yn hwyr. Gollwng y tyrfaoedd, iddynt fynd i'r pentrefi i brynu bwyd iddynt eu hunain."
16Meddai Iesu wrthynt, "Nid oes rhaid iddynt fynd ymaith. Rhowch chwi rywbeth i'w fwyta iddynt."
17Meddent hwy wrtho, "Nid oes gennym yma ond pum torth a dau bysgodyn."
18Meddai yntau, "Dewch � hwy yma i mi."
19Ac wedi gorchymyn i'r tyrfaoedd eistedd ar y glaswellt, cymerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i'r nef a bendithio, torrodd y torthau a rhoddodd hwy i'r disgyblion, a'r disgyblion i'r tyrfaoedd.
20Bwytasant oll a chael digon, a chodasant ddeuddeg basgedaid lawn o'r tameidiau oedd dros ben.
21Ac yr oedd y rhai oedd yn bwyta tua phum mil o wu375?r, heblaw gwragedd a phlant.
22Yna'n ddi-oed gwnaeth i'r disgyblion fynd i'r cwch a hwylio o'i flaen i'r ochr draw, tra byddai ef yn gollwng y tyrfaoedd.
23Wedi eu gollwng aeth i fyny'r mynydd o'r neilltu i wedd�o, a phan aeth hi'n hwyr yr oedd yno ar ei ben ei hun.
24Yr oedd y cwch eisoes gryn bellter oddi wrth y tir, ac mewn helbul gan y tonnau, oherwydd yr oedd y gwynt yn ei erbyn.
25Rhwng tri a chwech o'r gloch y bore daeth ef atynt dan gerdded ar y m�r.
26Pan welodd y disgyblion ef yn cerdded ar y m�r, dychrynwyd hwy nes dweud, "Drychiolaeth yw", a gweiddi gan ofn.
27Ond ar unwaith siaradodd Iesu � hwy. "Codwch eich calon," meddai, "myfi yw; peidiwch ag ofni."
28Atebodd Pedr ef, "Arglwydd, os tydi yw, gorchymyn i mi ddod atat ar y tonnau."
29Meddai Iesu, "Tyrd." Disgynnodd Pedr o'r cwch a cherddodd ar y tonnau, a daeth at Iesu.
30Ond pan welodd rym y gwynt brawychodd, ac wrth ddechrau suddo gwaeddodd, "Arglwydd, achub fi."
31Estynnodd Iesu ei law ar unwaith a gafael ynddo gan ddweud, "Ti o ychydig ffydd, pam y petrusaist?"
32Ac wedi iddynt ddringo i'r cwch, gostegodd y gwynt.
33Yna addolodd y rhai oedd yn y cwch ef, gan ddweud, "Yn wir, Mab Duw wyt ti."
34Wedi croesi'r m�r daethant i dir yn Genesaret.
35Adnabu pobl y lle hwnnw ef, ac anfonasant i'r holl gymdogaeth honno, a daethant �'r cleifion i gyd ato,
36ac erfyn arno am iddynt gael yn unig gyffwrdd ag ymyl ei fantell. A llwyr iachawyd pawb a gyffyrddodd ag ef.