Yr Efengyl yn ôl Mathew 17:1-27 BCN1988 - Bible AI

1Ymhen chwe diwrnod dyma Iesu'n cymryd Pedr ac Iago ac Ioan ei frawd a mynd � hwy i fynydd uchel o'r neilltu.

2A gweddnewidiwyd ef yn eu gu373?ydd hwy, a disgleiriodd ei wyneb fel yr haul, ac aeth ei ddillad yn wyn fel y goleuni.

3A dyma Moses ac Elias yn ymddangos iddynt, yn ymddiddan ag ef.

4A dywedodd Pedr wrth Iesu, "Arglwydd, y mae'n dda ein bod ni yma; os mynni, gwnaf yma dair pabell, un i ti ac un i Moses ac un i Elias."

5Tra oedd ef yn dal i siarad, dyma gwmwl golau yn cysgodi drostynt, a llais o'r cwmwl yn dweud, "Hwn yw fy Mab, yr Anwylyd; ynddo ef yr wyf yn ymhyfrydu; gwrandewch arno."

6A phan glywodd y disgyblion hyn syrthiasant ar eu hwynebau a chydiodd ofn mawr ynddynt.

7Daeth Iesu atynt a chyffwrdd � hwy gan ddweud, "Codwch, a pheidiwch ag ofni."

8Ac wedi edrych i fyny ni welsant neb ond Iesu'n unig.

9Wrth iddynt ddod i lawr o'r mynydd gorchmynnodd Iesu iddynt, "Peidiwch � dweud wrth neb am y weledigaeth nes y bydd Mab y Dyn wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw."

10Gofynnodd y disgyblion iddo, "Pam y mae'r ysgrifenyddion yn dweud bod yn rhaid i Elias ddod yn gyntaf?"

11Atebodd yntau, "Bydd Elias yn dod ac yn adfer pob peth.

12Ond 'rwy'n dweud wrthych fod Elias eisoes wedi dod, ond iddynt fethu ei adnabod, a gwneud iddo beth bynnag a fynnent; felly hefyd y mae Mab y Dyn yn mynd i ddioddef ar eu llaw."

13Yna deallodd y disgyblion mai am Ioan Fedyddiwr y bu'n s�n wrthynt.

14Pan ddaethant at y dyrfa, daeth dyn at Iesu gan benlinio o'i flaen a dweud,

15Syr, tosturia wrth fy mab, oherwydd y mae'n dioddef o ffitiau ac yn dioddef yn enbyd, yn cwympo'n aml i'r t�n ac yn aml i'r du373?r.

16Deuthum ag ef at dy ddisgyblion di, ac ni allasant hwy ei iach�u."

17Atebodd Iesu, "O genhedlaeth ddi-ffydd a gwyrgam, pa hyd y byddaf gyda chwi? Pa hyd y goddefaf chwi? Dewch ag ef yma ataf fi."

18Ceryddodd Iesu y cythraul, ac aeth allan ohono, ac fe iachawyd y bachgen o'r munud hwnnw.

19Yna daeth y disgyblion at Iesu o'r neilltu a dweud, "Pam na allem ni ei fwrw ef allan?"

20Meddai ef wrthynt, "Am fod eich ffydd chwi mor wan. Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, os bydd gennych ffydd gymaint � hedyn mwstard, fe ddywedwch wrth y mynydd hwn, 'Symud oddi yma draw', a symud a wna. Ac ni fydd dim yn amhosibl i chwi."

21[{cf15i Nid �'r math hwn allan ond trwy weddi ac ympryd.}]

22Pan oeddent gyda'i gilydd yng Ngalilea dywedodd Iesu wrthynt, "Y mae Mab y Dyn i'w draddodi i ddwylo pobl,

23ac fe'i lladdant ef, a'r trydydd dydd fe'i cyfodir." Ac aethant yn drist iawn.

24Wedi iddynt ddod i Gapernaum, daeth y rhai oedd yn casglu treth y deml at Pedr a gofyn, "Onid yw eich athro yn talu treth y deml?"

25Ydyw," meddai Pedr. Pan aeth i'r tu375?, achubodd Iesu'r blaen arno trwy ofyn, "Simon, beth yw dy farn di? Gan bwy y mae brenhinoedd y byd yn derbyn tollau a threthi? Ai gan eu dinasyddion eu hunain ynteu gan estroniaid?"

26Gan estroniaid," meddai Pedr. Dywedodd Iesu wrtho, "Felly y mae'r dinasyddion yn rhydd o'r dreth.

27Ond rhag i ni beri tramgwydd iddynt, dos at y m�r a bwrw fachyn iddo, a chymer y pysgodyn cyntaf a ddaw i fyny. Agor ei geg ac fe gei ddarn arian. Cymer hwnnw a rho ef iddynt drosof fi a thithau."

footer>