1Pan orffennodd Iesu lefaru'r holl eiriau hyn, dywedodd wrth ei ddisgyblion,
2Gwyddoch fod y Pasg yn dod ymhen deuddydd, ac fe draddodir Mab y Dyn i'w groeshoelio."
3Yna daeth y prif offeiriaid a henuriaid y bobl ynghyd yng nghyntedd yr archoffeiriad, a elwid Caiaffas,
4a chynllwyn i ddal Iesu trwy ddichell a'i ladd.
5Ond dweud yr oeddent, "Nid yn ystod yr u373?yl, rhag digwydd cynnwrf ymhlith y bobl."
6Pan oedd Iesu ym Methania yn nhu375? Simon y gwahanglwyfus,
7daeth gwraig ato a chanddi ffiol alabastr o ennaint gwerthfawr, a thywalltodd yr ennaint ar ei ben tra oedd ef wrth bryd bwyd.
8Pan welodd y disgyblion hyn, aethant yn ddig a dweud, "I ba beth y bu'r gwastraff hwn?
9Oherwydd gallesid gwerthu'r ennaint hwn am lawer o arian a'i roi i'r tlodion."
10Sylwodd Iesu ar hyn a dywedodd wrthynt, "Pam yr ydych yn poeni'r wraig? Oherwydd gweithred brydferth a wnaeth hi i mi.
11Y mae'r tlodion gyda chwi bob amser, ond ni fyddaf fi gyda chwi bob amser.
12Wrth dywallt yr ennaint hwn ar fy nghorff, fy mharatoi yr oedd hi ar gyfer fy nghladdu.
13Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, pa le bynnag y pregethir yr Efengyl yma yn yr holl fyd, adroddir hefyd yr hyn a wnaeth hon, er cof amdani."
14Yna aeth un o'r Deuddeg, hwnnw a elwid Jwdas Iscariot, at y prif offeiriaid
15a dweud, "Beth a rowch imi os bradychaf ef i chwi?" Talasant iddo ddeg ar hugain o ddarnau arian;
16ac o'r pryd hwnnw dechreuodd geisio cyfle i'w fradychu ef.
17Ar ddydd cyntaf gu373?yl y Bara Croyw daeth y disgyblion at Iesu a gofyn, "Ble yr wyt ti am inni baratoi i ti fwyta gwledd y Pasg?".
18Dywedodd yntau, "Ewch i'r ddinas at ddyn arbennig a dywedwch wrtho, 'Y mae'r Athro'n dweud, "Y mae fy amser i'n agos; yn dy du375? di yr wyf am gadw'r Pasg gyda'm disgyblion."'"
19A gwnaeth y disgyblion fel y gorchmynnodd Iesu iddynt, a pharatoesant wledd y Pasg.
20Gyda'r nos yr oedd wrth y bwrdd gyda'r Deuddeg.
21Ac fel yr oeddent yn bwyta, dywedodd Iesu, "Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych y bydd i un ohonoch fy mradychu i."
22A chan drist�u yn fawr dechreusant ddweud wrtho, bob un ohonynt, "Nid myfi yw, Arglwydd?"
23Atebodd yntau, "Un a wlychodd ei law gyda mi yn y ddysgl, hwnnw a'm bradycha i.
24Y mae Mab y Dyn yn wir yn ymadael, fel y mae'n ysgrifenedig amdano, ond gwae'r dyn hwnnw y bradychir Mab y Dyn ganddo! Da fuasai i'r dyn hwnnw petai heb ei eni."
25Dywedodd Jwdas ei fradychwr, "Nid myfi yw, Rabbi?" Meddai Iesu wrtho, "Ti a ddywedodd hynny."
26Ac wrth iddynt fwyta, cymerodd Iesu fara, ac wedi bendithio fe'i torrodd a'i roi i'r disgyblion, a dywedodd, "Cymerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff."
27A chymerodd gwpan, ac wedi diolch fe'i rhoddodd iddynt gan ddweud, "Yfwch ohono, bawb,
28oherwydd hwn yw fy ngwaed i, gwaed y cyfamod, a dywelltir dros lawer er maddeuant pechodau.
29'Rwy'n dweud wrthych nad yfaf o hyn allan o hwn, ffrwyth y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfaf ef yn newydd gyda chwi yn nheyrnas fy Nhad."
30Ac wedi iddynt ganu emyn aethant allan i Fynydd yr Olewydd.
31Yna dywedodd Iesu wrthynt, "Fe ddaw cwymp i bob un ohonoch chwi o'm hachos i heno, oherwydd y mae'n ysgrifenedig: 'Trawaf y bugail, a gwasgerir defaid y praidd.'
32Ond wedi i mi gael fy nghyfodi af o'ch blaen chwi i Galilea."
33Atebodd Pedr ef, "Er iddynt gwympo bob un o'th achos di, ni chwympaf fi byth."
34Meddai Iesu wrtho, "Yn wir, 'rwy'n dweud wrthyt y bydd i ti heno, cyn i'r ceiliog ganu, fy ngwadu i deirgwaith."
35Hyd yn oed petai'n rhaid imi farw gyda thi," meddai Pedr wrtho, "ni'th wadaf byth." Ac felly y dywedodd y disgyblion i gyd.
36Yna daeth Iesu gyda hwy i le a elwir Gethsemane, ac meddai wrth y disgyblion, "Eisteddwch yma tra byddaf fi'n mynd fan draw i wedd�o."
37Ac fe gymerodd gydag ef Pedr a dau fab Sebedeus; a dechreuodd deimlo tristwch a thrallod dwys.
38Yna meddai wrthynt, "Y mae f'enaid yn drist iawn hyd at farw. Arhoswch yma a gwyliwch gyda mi."
39Aeth ymlaen ychydig, a syrthiodd ar ei wyneb gan wedd�o, "Fy Nhad, os yw'n bosibl, boed i'r cwpan hwn fynd heibio i mi; ond nid fel y mynnaf fi, ond fel y mynni di."
40Daeth yn �l at y disgyblion a'u cael hwy'n cysgu, ac meddai wrth Pedr, "Felly! Oni allech wylio am un awr gyda mi?
41Gwyliwch, a gwedd�wch na ddewch i gael eich profi. Y mae'r ysbryd yn barod ond y cnawd yn wan."
42Aeth ymaith drachefn yr ail waith a gwedd�o, "Fy Nhad, os nad yw'n bosibl i'r cwpan hwn fynd heibio heb i mi ei yfed, gwneler dy ewyllys di."
43A phan ddaeth yn �l fe'u cafodd hwy'n cysgu eto, oherwydd yr oedd eu llygaid yn drwm.
44Ac fe'u gadawodd eto a mynd ymaith i wedd�o y drydedd waith, gan lefaru'r un geiriau drachefn.
45Yna daeth at y disgyblion a dweud wrthynt, "A ydych yn dal i gysgu a gorffwys? Dyma'r awr yn agos, a Mab y Dyn yn cael ei fradychu i ddwylo pechaduriaid.
46Codwch ac awn. Dyma fy mradychwr yn agos�u."
47Yna, tra oedd yn dal i siarad, dyma Jwdas, un o'r Deuddeg, yn dod, a chydag ef dyrfa fawr yn dwyn cleddyfau a phastynau, wedi eu hanfon gan y prif offeiriaid a henuriaid y bobl.
48Rhoddodd ei fradychwr arwydd iddynt gan ddweud, "Yr un a gusanaf yw'r dyn; daliwch ef."
49Ac yn union aeth at Iesu a dweud, "Henffych well, Rabbi", a chusanodd ef.
50Dywedodd Iesu wrtho, "Gyfaill, gwna'r hyn yr wyt yma i'w wneud." Yna daethant a rhoi eu dwylo ar Iesu a'i ddal.
51A dyma un o'r rhai oedd gyda Iesu yn estyn ei law ac yn tynnu ei gleddyf a tharo gwas yr archoffeiriad a thorri ei glust i ffwrdd.
52Yna dywedodd Iesu wrtho, "Rho dy gleddyf yn �l yn ei le, oherwydd bydd pawb sy'n cymryd y cleddyf yn marw trwy'r cleddyf.
53A wyt yn tybio na allwn ddeisyf ar fy Nhad, ac na roddai i mi yn awr fwy na deuddeg lleng o angylion?
54Ond sut felly y cyflawnid yr Ysgrythurau sy'n dweud mai fel hyn y mae'n rhaid iddi ddigwydd?"
55A'r pryd hwnnw dywedodd Iesu wrth y dyrfa, "Ai fel at leidr, � chleddyfau a phastynau, y daethoch allan i'm dal i? Yr oeddwn yn eistedd beunydd yn y deml yn dysgu, ac ni ddaliasoch fi.
56Ond digwyddodd hyn oll fel y cyflawnid yr hyn a ysgrifennodd y proffwydi." Yna gadawodd y disgyblion ef bob un, a ffoi.
57Aeth y rhai oedd wedi dal Iesu ag ef ymaith i du375? Caiaffas yr archoffeiriad, lle'r oedd yr ysgrifenyddion a'r henuriaid wedi dod ynghyd.
58Canlynodd Pedr ef o hirbell hyd at gyntedd yr archoffeiriad, ac wedi mynd i mewn eisteddodd gyda'r gwasanaethwyr, i weld y diwedd.
59Yr oedd y prif offeiriaid a'r holl Sanhedrin yn ceisio camdystiolaeth yn erbyn Iesu, er mwyn ei roi i farwolaeth,
60ond ni chawsant ddim, er i lawer o dystion gau ddod ymlaen. Yn y diwedd daeth dau ymlaen
61a dweud, "Dywedodd hwn, 'Gallaf fwrw i lawr deml Duw, ac ymhen tridiau ei hadeiladu.'"
62Yna cododd yr archoffeiriad ar ei draed a dweud wrtho, "Onid atebi ddim? Beth am dystiolaeth y rhain yn dy erbyn?"
63Parhaodd Iesu'n fud; a dywedodd yr archoffeiriad wrtho, "Yr wyf yn rhoi siars i ti dyngu yn enw'r Duw byw a dweud wrthym ai ti yw'r Meseia, Mab Duw."
64Dywedodd Iesu wrtho, "Ti a ddywedodd hynny; ond 'rwy'n dweud wrthych: 'O hyn allan fe welwch Fab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw'r Gallu ac yn dyfod ar gymylau'r nef.'"
65Yna rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad a dweud, "Cabledd! Pa raid i ni wrth dystion bellach? Yr ydych newydd glywed ei gabledd.
66Sut y barnwch chwi?" Atebasant, "Y mae'n haeddu marwolaeth."
67Yna poerasant ar ei wyneb a'i gernodio; trawodd rhai ef
68a dweud, "Proffwyda i ni, Feseia! Pwy a'th drawodd?"
69Yr oedd Pedr yn eistedd y tu allan yn y cyntedd. A daeth un o'r morynion ato a dweud, "Yr oeddit tithau hefyd gyda Iesu'r Galilead."
70Ond gwadodd ef o flaen pawb a dweud, "Nid wyf yn gwybod am beth yr wyt ti'n s�n."
71Ac wedi iddo fynd allan i'r porth, gwelodd morwyn arall ef a dweud wrth y rhai oedd yno, "Yr oedd hwn gyda Iesu'r Nasaread."
72Gwadodd yntau drachefn � llw, "Nid wyf yn adnabod y dyn."
73Ymhen ychydig, dyma'r rhai oedd yn sefyll yno yn dod at Pedr a dweud wrtho, "Yn wir yr wyt ti hefyd yn un ohonynt, achos y mae dy acen yn dy fradychu."
74Yna dechreuodd yntau regi a thyngu, "Nid wyf yn adnabod y dyn." Ac ar unwaith fe ganodd y ceiliog.
75Cofiodd Pedr y gair a lefarodd Iesu, "Cyn i'r ceiliog ganu, fe'm gwedi i deirgwaith." Aeth allan ac wylo'n chwerw.