1Wedi iddo ddod i lawr o'r mynydd dilynodd tyrfaoedd mawr ef.
2A dyma ddyn gwahanglwyfus yn dod ato ac yn syrthio o'i flaen a dweud, "Syr, os mynni, gelli fy nglanhau."
3Estynnodd Iesu ei law a chyffwrdd ag ef gan ddweud, "Yr wyf yn mynnu, glanhaer di." Ac ar unwaith glanhawyd ei wahanglwyf.
4Meddai Iesu wrtho, "Gwylia na ddywedi wrth neb, ond dos a dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma'r rhodd a orchmynnodd Moses, yn dystiolaeth gyhoeddus."
5Ar �l iddo fynd i mewn i Gapernaum daeth canwriad ato ac erfyn arno:
6Syr, y mae fy ngwas yn gorwedd yn y tu375? wedi ei barlysu, mewn poenau enbyd."
7Dywedodd Iesu wrtho, "Fe ddof fi i'w iach�u."
8Atebodd y canwriad, "Syr, nid wyf yn deilwng i ti ddod dan fy nho; ond dywed air yn unig, a chaiff fy ngwas ei iach�u.
9Oherwydd dyn sydd dan awdurdod wyf finnau, a chennyf filwyr danaf; byddaf yn dweud wrth hwn, 'Dos', ac fe �, ac wrth un arall, 'Tyrd', ac fe ddaw, ac wrth fy ngwas, 'Gwna hyn', ac fe'i gwna."
10Pan glywodd Iesu hyn, fe ryfeddodd, a dywedodd wrth y rhai oedd yn ei ddilyn, "Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, ni chefais gan neb yn Israel ffydd mor fawr.
11'Rwy'n dweud wrthych y daw llawer o'r dwyrain a'r gorllewin a chymryd eu lle yn y wledd gydag Abraham ac Isaac a Jacob yn nheyrnas nefoedd.
12Ond caiff plant y deyrnas eu bwrw allan i'r tywyllwch eithaf; bydd yno wylo a rhincian dannedd."
13A dywedodd Iesu wrth y canwriad, "Dos ymaith; boed iti fel y credaist." Ac fe iachawyd ei was y munud hwnnw.
14Pan ddaeth i du375? Pedr, gwelodd Iesu ei fam-yng-nghyfraith ef yn gorwedd yn wael dan dwymyn.
15Fe gyffyrddodd �'i llaw, a gadawodd y dwymyn hi, ac fe gododd a dechrau gweini arno.
16Gyda'r nos daethant � llawer oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid ato, ac fe fwriodd allan yr ysbrydion �'i air, ac iach�u pawb oedd yn glaf;
17fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy Eseia'r proffwyd: "Ef a gymerodd ein gwendidau ac a ddug ymaith ein clefydau."
18Pan welodd Iesu dyrfa o'i amgylch, rhoddodd orchymyn i groesi i'r ochr draw.
19Daeth un o'r ysgrifenyddion a dweud wrtho, "Athro, canlynaf di lle bynnag yr ei."
20Meddai Iesu wrtho, "Y mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod, ond gan Fab y Dyn nid oes lle i roi ei ben i lawr."
21Dywedodd un arall o'i ddisgyblion wrtho, "Arglwydd, caniat� imi yn gyntaf fynd a chladdu fy nhad."
22Ond meddai Iesu wrtho, "Canlyn fi, a gad i'r meirw gladdu eu meirw eu hunain."
23Aeth Iesu i mewn i'r cwch, a chanlynodd ei ddisgyblion ef.
24A dyma storm fawr yn codi ar y m�r, nes bod y cwch yn cael ei guddio gan y tonnau; ond yr oedd ef yn cysgu.
25Daethant ato a'i ddeffro a dweud, "Arglwydd, achub ni, y mae ar ben arnom."
26A dywedodd wrthynt, "Pam y mae arnoch ofn, chwi o ychydig ffydd?" Yna cododd a cheryddodd y gwyntoedd a'r m�r, a bu tawelwch mawr.
27Synnodd y bobl a dweud, "Pa fath ddyn yw hwn? Y mae hyd yn oed y gwyntoedd a'r m�r yn ufuddhau iddo."
28Wedi iddo fynd i'r ochr draw, i wlad y Gadareniaid, daeth i'w gyfarfod ddau ddyn oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid, yn dod allan o blith y beddau; yr oeddent mor ffyrnig fel na allai neb fynd heibio'r ffordd honno.
29A dyma hwy'n gweiddi, "Beth sydd a fynni di � ni, Fab Duw? A ddaethost yma cyn yr amser i'n poenydio ni?"
30Cryn bellter oddi wrthynt yr oedd cenfaint fawr o foch yn pori.
31Ymbiliodd y cythreuliaid arno, "Os wyt yn ein bwrw ni allan, anfon ni i'r genfaint moch."
32Meddai ef wrthynt, "Ewch." Ac fe aethant allan o'r dynion a mynd i mewn i'r moch. A dyma'r genfaint i gyd yn rhuthro dros y dibyn i'r m�r, a threngi yn y dyfroedd.
33Ffodd eu bugeiliaid, a mynd am y dref i adrodd yr holl hanes, a'r hyn oedd wedi digwydd i'r dynion a fu ym meddiant cythreuliaid.
34A dyma'r holl dref yn mynd allan i gyfarfod � Iesu, ac wedi ei weld yn erfyn arno symud o'u gororau.